Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y blaenoriaid cyntaf, John Hughes, yn flaenor yn y Ceunant ers 1875, a John J. Lloyd, a ddewiswyd ar sefydliad yr eglwys. Dewiswyd John O. Hughes Caehoedyn, Hydref 2, 1898.

Yr ydoedd D. O. Hughes Hafod Owen wedi cychwyn fel arweinydd y canu, ond cymerwyd ef ymaith oddiwrth ei waith at ei wobr. Y rhai fu'n gofalu am ganiadaeth y cysegr,—Richard T. Jones, W. O. Jones, Thomas R. Williams, Richard H. Williams. John Hughes Cae'rweddus ydoedd un y bu ei oes faith yn oes of ganu yn y cysegr.

Bu sefydlu'r achos o fendith fawr. Y rhai oedd bell a wnaethpwyd yn agos, a chafodd plant yr ardal freintiau newyddion. "Prennau'r coed a ganant o flaen yr Arglwydd."

Rhif yr eglwys yn 1900, 81.