Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ARDAL BEDDGELERT.[1]


ARWEINIOL.

Y MAE hyd plwyf Beddgelert, o ddwyrain i orllewin, a'i led, hefyd, o ogledd i dde tua 10 milltir, a chynnwys dair o nentydd, sef Colwyn, Gwynant a Nantmor. Gorwedd yng nghantrefi Eifionnydd, Isgorfai ac Ardudwy. Ei derfynau a gyrraedd hyd drum y Wyddfa, a chynnwys ei ochr a'i waelod deheuol agos yn gyfan gwbl, ynghyda'r Foel Hebog, yr Aran, y Graig Goch a'r Mynyddfawr a chyfran o'r Siabod. Yr oedd y boblogaeth yn 1831 yn 777; bu wedi hynny yn gymaint a 1500; yr ydoedd yn 1230 yn 1901.

"Lle hynod o anhygyrch. Hyd o fewn ychydig ugeiniau o flynyddoedd yn ol, nid oedd ffyrdd i un cyfeiriad, oddigerth un rhibyn cul i gyfeiriad Caernarvon. Y mae'n amlwg mai un lled ddiweddar ydoedd honno. O'r herwydd, yr oedd pob math o glud yn hynod o drafferthus i'r trigolion. Yr oedd y llwybrau dros y bylchau yn hynod gulion, geirwon a serth. Nid oedd yn bosibl troi olwyn un math o fen i unrhyw gyfeiriad. Byddai weithiau gychod yn cludo ar lanw i fyny ac i lawr hyd y Traeth Mawr. Yr oedd y ffeiriau a'r marchnadoedd ymhell." (Ysgrif Gruffydd Prisiart).

Fe deifl George Borrow rywbeth o swyn cyfrin ei bersonoliaeth ei hun dros yr ardal. "Y mae Bethgelert wedi ei gyfleu mewn dyffryn amgylchynedig gan furiau enfawr, Moel Hebog a Cherrig Llan [Craig y Llan] yn hynotaf ohonynt; y blaenaf yn ei warchod ar y dde, a'r olaf, y sy'n eithaf du ac agos yn unionsyth, ar y dwyrain. Rhuthra ffrwd fechan drwy'r dyffryn a chyrch allan drwy fwlch yn ei ben de-ddwyreiniol. Dywed rhai fod y dyffryn yn

  1. Ysgrif Gruffydd Prisiart. Traethawd ar y Wyddfa (llawysgrif), gan Gruffydd Prisiart. Erthyglau yn y Drych am 1890 ar Blwyf y Bedd, gan E. E. Owen, Los Angeles, California. The Journey to Snowdon, 1781,Pennant. Observations on the Snowdon Mountains, 1802, W. Williams Llandegai. Wild Wales, George Borrow. Ysgrif Carneddog ar Aberglaslyn (Cymru xvi. 69). Ysgrifau Mr. D. Pritchard Cwmcloch. Nodiadau gan Carneddog.