dwyn ei enw, Beddgelert, oddiwrth fod yn fan claddu Celert, sant Prydeinig o'r chweched ganrif. [Cyfeirir hefyd at stori Gelert y ci. Dywed Pennant fod yn ei feddiant lun sel y priordy, wedi ei amseru 1531, a bod arno ffigyr y forwyn a'r plentyn, gyda'r gair Bethkele]. Ar ol crwydro o amgylch y dyffryn am beth amser a gweled ychydig o'i ryfeddodau, holais am fy ffordd i Ffestiniog a chychwynais tua'r lle hwnw. Y ffordd yno sy drwy'r bwlch ym mhen de-ddwyreiniol y dyffryn. Wedi cyrraedd dor y bwlch mi droais i edrych ar yr olygfa yr oeddwn yn ei gadael o'm hôl. Y weledigaeth a ymgyflwynai i'm llygaid oedd fawreddus a phrydferth dros ben. O'm blaen yr oedd dôl Gelert gyda'r afon yn llifo drwodd tua'r bwlch, tuhwnt i'r ddôl cadwen yr Eryri; ar y dde y cadarn Gerrig Llan, ar y chwith y cyfartal gadarn Hebog, ond nid mor serth hwnnw. Mewn gwirionedd, dyffryn Gelert sy ddyffryn rhyfeddol yn cydymgais am fawreddusrwydd a harddwch âg unrhyw ddyffryn naill ai yn yr Alpau neu'r Pyrenees. Ar ol hir a sefydlog olygiad mi droais o amgylch drachefn ac a aethum ar fy ffordd. Yn y man mi ddois at bont ar draws ffrwd, ag y dywedwyd wrthyf gan ryw wr y gelwid yn Aber Glas Lyn neu bont y bala y llyn llwydlas. Mi ddaethum yn fuan allan o'r bwlch, ac wedi myned beth o ffordd arhosais eto i edmygu'r olygfa. I'r gorllewin yr oedd y Wyddfa; yn deg i'r gogledd yr oedd cadwen aruthr o greigiau; o'r tu ol iddynt yr oedd pigyn blaenfain yn ymddangos yn cydymgais â'r Wyddfa ei hun mewn uchder; cydrhwng y creigiau a'r ffordd lle safwn i yr oedd golygfa hardd o goedwigoedd. Aethum ymlaen drachefn, gan fyned o amgylch ochr bryn gydag esgyniad arafdeg. Wedi tro bach arhosais drachefn i edrych o'm hamgylch. Dyna lle'r oedd yr olygfa gyfoethog ar goedwigoedd i'r gogledd, tu ol iddi yr oedd y creigiau, a thu ol i'r creigiau y cyfodai y bryn pigfain rhyfeddol yn polioni'r nef; ger ei fron i'r dde-ddwyrain yr oedd clamp o fynydd maith."
Dyfynnir yma o ysgrif Carneddog yn y Cymru: "Yn Aberglaslyn ceir y cyfuniad o'r golygfeydd mwyaf rhamantus a swynol yng Nghymru. . . . . Yr oedd Matthews Ewenni ar 'Wibdaith drwy Fon ac Arfon,' ac fel hyn y daeth tuag Aberglaslyn,—'Gydag ochr y Wyddfa yr aethum, gan ddisgyn yn raddol rhwng y bryniau mawrion, nes o'r diwedd suddo i mewn i Feddgelert—fel gorffwysfa oesol oddiwrth bob ystorm. Aethum i Aberglaslyn, tua milltir a hanner islaw y pentref hwn. Yr ydym yn myned