Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhwng y creigydd uchel,—yn unionsyth ymron bob ochr, ac yn ymestyn at ei gilydd gyda sarugrwydd anghymodadwy. Ar ochrau y creigydd, mewn man neu ddau, y mae ychydig o goed ffynidwydd wedi crymu eu pennau, ac yn llechu yn ddistaw a gwylaidd . . . fel mewn agwedd ostyngedig yn addoli . . . yn ymyl arwyddion o fawredd Duw tragwyddoldeb. Yr oedd ychydig eifr, un yma a'r llall draw, yn dringo'r creigydd serth, rhyngom a'r wybren fry . . . Gyda hyn, dyma y byd mawr fel pe buasai yn caead i fyny yn oes oesoedd o'n blaen . . . Ond gyda'n bod yn cyrraedd y bont, . . . wele fyd newydd yn agor o'n blaen ar un olwg . . . O! Arglwydd fy Nuw, tra mawr ydwyt, gwisgaist ogoniant a harddwch.' Ar lifogydd mawrion bydd yr olygfa ar yr afon yn gyffrous, a dwndwr y dwr wrth gorddi rhwng y meini yn fyddarol. Wele amrywion ei bywyd yn ol Eifion Wyn —

O fynyddfaen y Wyddfa—ei rhedlif
Afradlon gychwynna;
Tonni hyd Feddgelert wna
I lawr o'r pinacl eira.

Sïadol frysia wedyn—a gwynna
Geunant Aberglaslyn;
Rhed heibio godreu'r dibyn,
A'i mawr gorff fel marmor gwyn."

Rhwng ardal Llanberis ar y naill law i'r Wyddfa, ac ardal Beddgelert ar y llaw arall, ynghydag ardal Talysarn ychydig yn nes i'r môr, hithau hefyd yn cychwyn o fan nythle'r Eryr, fe geir nifer o ddyffrynoedd toredig, yn ymestyn ac yn ymagor mewn rhyw gyfuniad anrhaethol o weledigaethau o ramantedd a swyn a dirgelwch, mewn mynydd a bryn a chraig ysgythrog, mewn hafnau a cheunentydd a llechweddi caregog, mewn afon a llyn a rhaiadr, mewn coed a phrysglwyni a mwsogl. Allan o ganol y cyfoeth aneirif hwn o addurnedd amrywiol, fe geir y Wyddfa yn ymgodi fel rhyw binacl asgellog, yn ddiystyr megys o'r addurnedd o amgylch, gan ymestyn am berffeithrwydd uwch a dwyfolach, sef claer wyneb y nefoedd oddiarnodd. Wrth ymestyn felly, fe'i ceir hi gan amlaf yn uwch ei llaw na'r tymhestloedd a rhialtwch yr elfennau, ag y mae pob rhan arall o'r olygfa yn mynych deimlo oddiwrth rwysg eu hawdurdod, gan gael eu claddu o'r golwg ar brydiau dan fentyll eu tywyllni neu guwch eu digofaint ffrom. Ac nid gormod dweyd chwaith, ddarfod i rai o drigolion godreu'r