Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

HANES METHODISTIAETH ARFON.

——————

ARDAL Y WAENFAWR.

——————

ARWEINIOL.[1]

Y MAE capel presennol y Waen yn y rhan henafol o'r pentref. Y rhan honno sydd ychydig fwy na 3 milltir i'r de-ddwyrain o'r maes yng Nghaernarvon, ar y ffordd i Feddgelert. Yn ymyl yr oedd yr hen ffordd Rufeinig o Segontium (yr hen Gaernarvon) i Feddgelert. Y pentref erbyn hyn yn ymestyn o Groesywaen (ychydig pellach o Gaernarfon na'r garreg dair milltir), hyd y stesion ar y narrow-gauge, ag sy'n tynnu at y garreg bedair milltir. Y Waen ei hunan, a elwir felly yn awr, sydd oddeutu milltir o arwynebedd bob ffordd. Ganwyd Owen Williams yn 1790, a chof ganddo dir y waen, a elwir yn briodol felly, heb ond un tŷ annedd arno, sef Cefn y Waen Robert Owen.

Wyneba'r ffordd o Gaernarvon yn o deg at yr hafn rhwng y Foel Eilian a'r Mynyddfawr; ac ar y chwith wrth fyned drwy'r Waen y mae mynydd y Cefndu, ac ar y dde yr Alltgoed fawr, gyda'r afon Gwyrfai yn ymddolennu cydrhyngddynt. Tynnodd Dafydd Thomas y Wyrfai i gyd i'w safn unwaith, yn ymyl ei tharddle wrth gopa'r Wyddfa, pan wedi poethi wrth ddringo ar ddiwrnod tesog yn yr haf. Eithaf gorchwyl fuasai hwnnw i Fynydd yr Eliffant ei hun, â'i dduryn anferth, erbyn cyrraedd o'r Wyrfai i Ddyffryn Betws, pe gwelid ef yn ymysgwyd ryw ddiwrnod, gan roi arwyddion o fywyd. Tra tharawiadol yw'r olygfa ar y ddau fynydd, y Foel Eilian a'r Mynyddfawr, wrth nesau atynt yn y pellter, yn enwedig ar noswaith loergan leuad. Y pryd hwnnw y mae rhyw swyn drostynt, yn peri iddynt megys ymbellhau oddiwrthym i wlad hud a lledrith. Y Foel sydd lefngron, fel

anferth dwmpath gwâdd, ond llyfnach na hwnnw, a'r Mynydd-fawr a adnabyddir yn y fan fel mynydd yr eliffant, gyda'i dduryn

  1. Ysgriflyfrau Dafydd Thomas a Pierce Williams. Ysgrif Owen Williams, Geninen, 1883, t. 68. Y Waenfawr ddeugain mlynedd yn ol," gan Richard Jones (Caerludd), Traethodydd, 1895, t. 102. Ymddiddanion.