yn ymestyn i'r ochr bellaf i'r Foel. Nid rhyfedd fod y fangre. hon, yr ochr yma a'r ochr draw, yn wlad lledrithiau o'r anweledig. Fe deimlodd George Borrow rywbeth yma na theimlodd mo'r cyffelyb yn unlle arall, ac yr oedd ef yn neilltuol agored i'r math hwn o ddylanwad. Daw bryniau'r Iwerddon i'r golwg ar dro ar adeg machlud haul, oddiar ochr y Cefndu, pan fydd yr awyr yn glir a theneuedig iawn, ac ambell waith fe'u gwelir yn un rhes hirfaith, ac yn ymddangos fel pe wedi tramwy ymhell o ffordd ar draws y mor tuag atom. A bellach, dyma'r teligraff diwifrau yn dechre cael ei osod ar lethr y Cefndu. A chyda hwn bydd gwledydd cyfain, a chyfandiroedd pell, yn dechre agoshau ar draws yr anweledig, ac yn rhyw fodd cyfrin yn ymrithio megys o'n blaen. Uwchben hen lethr y Cefndu, nid nepell oddiwrth Greigiau padell y brain, hen gartref y tylwyth teg, fe welir yn y man, ar y nosweithiau tywyllion, fflachiadau disymwth yn yr awyr uwchben, megys tywyniadau esgyll cenhadon anweledig, yn dwyn gyda hwy eu cenadwriau o lawenydd neu o dristwch, o gyfarwyddyd neu o rybudd, yn amseroedd rhyfel a heddwch. A bydd yma rialti rhyfeddach eto na dawns y capiau cochion ar loergan lleuad gynt.
Dywed Dafydd Thomas y gelwid cytir y Waenfawr amser yn ol yn Waenfawr Treflan, a bod tenantiaid ystâd Treflan, a oedd y pryd hwnnw ym meddiant Syr Watkin W. Wynn, yn honni hawl i droi eu hanifeiliaid yno i bori. A dywed ef, hefyd, fod ar y cwrr o'r Waen sydd agosaf i'r Dreflan lawer iawn o dai henafol iawn, a elwid Pentref y Waen. Sylwir ganddo fod rhes o bentrefi bychain, o fewn llai na chwarter milltir y naill i'r llall, yn dechre yn Nhŷ-ucha'r-ffordd ac yn diweddu yn yr Hafod Oleu, ar lethr y Cefndu, wrth ochr y ffordd i Lanberis. Tai bychain tebyg i'w gilydd y disgrifir hwy ganddo, gydag un ystafell, a'r hen simdde fawr. Tŷ-ucha'r-ffordd, lle dechreuodd y Methodistiaid bregethu, fel y tybia Dafydd Thomas, ydoedd y mwyaf ohonynt, a thŷ un ystafell ydoedd hwnnw. Yn y tŷ hwnnw y bu Owen Williams yn trigiannu am flynyddoedd. Yma y troes Lyfr y Caniadau ar fesur cerdd, ac yma, orchwyl buddiolach, yr ysgrifennodd ei gyfran ei hun o'r Geirlyfr. Yr oedd y mân-bentrefi yma yn amrywio mewn maint, heb ond rhyw hanner dwsin neu lai o dai yn rhai ohonynt, a rhyw gymaint mwy yn eraill. Gelwid y pentrefi hyn wrth wahanol enwau: Tŷ-ucha'r-ffordd, Pentre uchaf, Pentre