isaf, Bryn y pistyll, Ty'n y gerddi, Bryneithin, Hafod oleu. Yr oedd y rhai'n yn hen dai, ebe Dafydd Thomas, pan oedd ei daid a'i nain ef yn ieuainc, y naill wedi ei eni yn 1740 a'r llall yn 1746. Dywedent hwy fod y cwbl ohonynt wedi eu toi â cherryg o'r Cefn- du yn eu hamser hwy. Y mae amryw o'r hen dai hyn yn aros o hyd.
Ganwyd Dafydd Thomas yn 1820, ac yn y cyfnod hwnnw gwehyddion oedd lliaws o'r bobl. Cof ganddo weled pilio'r llin yn ei gartref, a llinwr o Gaernarfon yn dod yno i'w drin yn yr ysgubor, a'i fam yn ei nyddu gyda'r hen dradl, a hwythau'r plant yn gwisgo'r crysau geirwon.
Golwg henaidd oedd ar y ffactri wlan yn y Dreflan pan oedd Dafydd Thomas yn fachgen. Murddyn erbyn hyn. Yr hen bandý yn Hafod y Wern yn llawer hynach na'r ffactri. Cof gan Dafydd Thomas glywed Owen Williams yn dweyd "agos 70 mlynedd yn ol," sef tuag 1830, fod oddeutu 500 o weithwyr ym mwngloddiau Drws y coed a Simdde'r ddylluan gan mlynedd cyn hynny, a'u bod agos oll yn prynnu eu dillad, ac yn cael eu gwneud, yn y Waen- fawr. Prynnai rhai o'r tyddynwyr wrthbannau, gwlaneni, llin- wlaneni, gan eu cymdogion, ac aent â hwy yn bynnau ar gefnau clapiau o geffylau bychain i ffeiriau Llanerchymedd a lleoedd eraill. Ond gwelodd Dafydd Thomas dro ar fyd, ac fel y bu gwaetha'r modd, aeth y meibion i wisgo ffustian, a'r merched sidanau a ffriliau.
Tua 1750 y dechreuodd preswylwyr y mân bentrefi adeiladu tai ar y cytir. Ymgasglai nifer ynghyd ar brynhawngwaith ar ryw lanerch neilltuol, a chyn bore codid rhyw fwthyn tyweirch, gyda darn o dir wedi ei farcio allan o'i amgylch, a mwg wedi ei ollwng drwy'r simne. Cysgid yn y bwthyn bob nos, a cheibid ac arloesid y llecyn tir yn ystod y dydd. Yn y dull hwnnw y ceid cerryg i wneud tý amgenach na'r cyntaf, ac i wneud cloddiau cerryg. Yr oedd dau le tân ymhob un o'r tai hyn.
Yn 1803 gwerthodd Syr Watkin stâd Treflan i John Evans, cyfreithiwr yng Nghaernarvon. Honnai John Evans hawl i'r mân dyddynod ar y sail mai perthyn i'r stâd yr oedd y cytir. Yr oedd rhai o'r tyddynwyr eisoes wedi prynnu eu hawl gan y llywod-