deimlir cyffyrddiad o'r un ysbrydiaeth yma ag a welir mewn hen farddoniaeth uchelryw. Ofer fuasai chwilio am y cyffelyb, nac o ran cywreinrwydd meddwl nac ychwaith o ran ysbryd crefyddol cuddiedig, yn y rhan fwyaf o lyfrau teithwyr Seisnig yng Nghymru. Ac er y gwyddis nad yw'r cyffelyb gywreinrwydd ysbryd wedi ei ddeffro yn y lliaws hyd yn oed o bobl grefyddol, eto rhaid ei fod mewn rhai ohonynt, a rhaid mai ysbryd crefydd ynddynt a'i deffrôdd yn rhai o honynt hwythau drachefn.
Y mae llawer wedi ei ysgrifennu yn y Gymraeg a'r Saesneg ar draddodiadau, hynafiaethau a llen gwerin y lle hwn, ac y mae yn dra chyfoethog yn yr ystyr hwn. Tebyg fod y Diwygiad Methodistaidd wedi lleihau dylanwad traddodiadau a lledrithiau ar feddwl y werin, gan ddwyn i mewn draddodiadau a gweledigaethau amgenach yn eu lle. Eithr yr oedd, mewn amser a aeth heibio o leiaf, ryw hynodrwydd ar ardymer trigolion y lle yn eu gwahaniaethu i ryw radd oddiwrth eraill. Clywyd angylion yn canu yn amser yr hen ddiwygiadau yn yr ardaloedd hyn yn fwy mynych, feallai, nag yn unlle arall yng Ngogledd Cymru. Diwygiad Beddgelert (1817 ac ymlaen), fel y gelwid ef, ydoedd yr hynotaf a fu yng Nghymru o ran angerddoldeb ac o ran parhad yr effeithiau. Yr oedd rhyw arbenigrwydd o ran sel ac angerddoldeb ar grefyddwyr Beddgelert y pryd hwnnw a dynnai sylw ymhell ac agos. Dyma ddisgrifiad o amgylchiadau allanol yr amaethwyr gan Pennant (t. 169): "Nid yw'r llecyn mynyddig hwn yn ymyl y Wyddfa ond prin yn dwyn unrhyw ŷd. Y cynnyrch ydyw gwartheg a defaid, sydd yn ystod haf yn cadw yn uchel iawn i fyny ar y mynydd, yn cael eu dilyn gan eu perchenogion a'u teuluoedd, a aneddant y tymor hwnnw mewn hafod-dai neu laethdai, megys y gwna amaethwyr yr Alpau Swissaidd yn eu sennes. Cynwysa'r tai hyn ystafell hirgul isel, gyda thwll yn y naill ben i ollwng allan y mwg oddiwrth y tân a wneir odditanodd. Y dodrefn sydd syml iawn, cerryg yn lle stolion, a'r gwelyau gwellt wedi eu dodi yn gyfochrol i'w gilydd. Gwnelant eu brethyn eu hunain, gan ddefnyddio eu lliwiau eu hunain, wedi eu casglu oddiar y creigiau, sef pen du y cerryg neu lichenomphaloides a chen arall, sef y lichen carietinus. Yn ystod haf ymrydd y dynion i'r cynhaeaf neu ofalu am y praidd, a'r merched i odro neu wneud ymenyn a chaws i'w hangenraid eu hunain. Godrant ddefaid a geifr, gan wneud caws