Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/115

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o'r llaeth i'w defnydd eu hunain. Ymborth y bobl fynyddig hyn sy'n blaen iawn, gan gynnwys ymenyn, caws a bara ceirch. Maidd ydyw eu diod; nid nad oes ganddynt ynghadw ychydig botelau o gwrw pur gryf, fel cordial ar gyfer gwaeledd. Y maent yn bobl o ddeall da, yn wagelog a ffelwych; yn gyffredin yn dal, teneu ac o gyfansoddiad da, oddiwrth eu dull o fyw. At y gaeaf disgynnant i'w hendref, neu hen annedd, lle'r arweiniant yn ystod gaeaf fywyd diofal," sef yn cribo gwlan, nyddu neu weu.

A dyma eto ddisgrifiad o'r un cyfnod, yn cynnwys y mewnol a'r allanol, o safle neilltuol yr ysgrifennydd, sef Williams Llandegai: "Y mae preswylwyr mynyddoedd Cymru mor agored a lletygar, fel y gallai dieithryn deithio yn eu plith heb fyned i unrhyw draul am fwyd a llety. Gallsai Sais alw eu ffâr yn arw; pa ddelw bynnag, mewn amaethdai yn gyffredin y mae ganddynt dri math o fara, sef gwenith, haidd a cheirch. Y ceirch a ddefnyddir fynychaf, a hwn ynghyda llaeth, ymenyn, caws a phytatws yw eu hymborth cynefin yn yr haf. Y mae ganddynt hefyd frithyll rhagorol, a fwyteir ganddynt yn ei adeg. Ac ar gyfer gaeaf y mae ganddynt gig eidion neu ddafad a choch yr wden, sef cig helfa neu gig gafr wedi ei hongian yn y simne ar wden, wedi ei gwneud o frigau helyg neu gyll. .. Y maent yn galed a bywiog, ond nid oes ganddynt mo'r ymroddiad a'r penderfyniad meddwl angenrheidiol i lafurwaith parhaus, a hwy o'u mabandod wedi eu harfer i gynywair y bryniau ar ol y praidd. Yn yr haf ânt yn droednoeth, ond anfynych yn goesnoeth, fel y dywedwyd yn ddiweddar gan deithiwr. Mewn bargeinion yn hirben a ffelgraff, mewn ymddiddan yn hoff o ddigrifwch, yn sobr, yn dra chynil, er fod teithydd diweddar wedi rhoi amgen gair iddynt. Ymddengys eu cyfarchiadau i rai braidd yn flinderus,—'Sut mae'r galon?' 'Sut mae'r wreigdda gartref, a'r plant, a'r gweddill o'r teulu?' a hynny yn cael ei fynych adrodd. Pan gyfarfyddant mewn tafarn yfant iechyd ei gilydd, neu iechyd y sawl yr el y siwg iddo ar bob tro. Y maent yn hynod o onest; ac os cyhuddir neb o ladrata dafad, edrychir arno yn ddyn digydwybod, ac hyd yn oed ei blant a goegir oblegid camymddygiad y tad, a theflir hynny i wyneb cymdogion pan wedi syrthio allan â'i gilydd Gydag ychydig eithriadau, y mae'r trigolion o'r grefydd sefydledig [cyfrifir y Methodistiaid yn perthyn i'r grefydd sefydledig, gan nad oeddynt eto wedi ymwahanu drwy alw gweinidogion o'u plith eu hunain]; ac ers pan