Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y mae'r Methodistiaid wedi dod mor lluosog a phoblogaidd, y maent [sef y trigolion] wedi myned yn fanwl a gwresog iawn mewn materion crefyddol, ac yn hynod wybodus mewn daliadau Efengylaidd. Amlwg i bob meddwl diragfarn ydyw fod moesau'r werin bobl yng Nghymru wedi gwella yn fawr er pan y mae Methodistiaeth wedi dod yn beth cyffredin: tyngu, medd-dod, ymladd, etc. sydd lai mynych, a chedwir y Suliau yn fanwl. Ond wrth ollwng gafael o un eithaf, mynych y digwydd fod dynion o ddeall egwan yn rhedeg i'r eithaf cyferbyniol. Hunandyb, ofergoeledd, penboethni, rhagrith, etc., ar hyn o bryd yw gwendidau arglwyddaidd y werinos. Y rhai hyn sydd wedi dod i'r fath fri, fel ag i wneud i grefydd ymddangos yn warthus. Yn lle'r ymddygiad gweddeiddlwys a'r duwiolfryd tawel hwnnw a nodwedda'r grefydd Gristnogol, munudiau amhwyllus, neidio, canu, crïo, a'r cyffelyb, sydd wedi tyfu mewn arfer yng nghynulliadau y sectariaid hyn. Er dylanwadu ar y nwydau, ceir y pregethwyr yn bugunad rhyw orhelaethrwydd o ffregod carbwl, anghysylltiol, ac am yr achos hwnnw nid yn amhriodol y gelwir hwy yn Frygawthwyr (Ranters). Pobl y mynydd a geidw eu hunain i fesur mawr ar wahan oddiwrth bobl y dyffryn; anfynych y deuant i lawr i'r dyffryndir am wragedd, ac ni fynn pobl y dyffryn ddringo i fyny'r llethrau creigiog, a dwyn i lawr ddyweddi i'w bwthyn. Eu galwedigaethau sydd wahanol, ac angenrheidiol i'w cymheiriaid fod wedi eu haddasu i'w gwahanol ddulliau o fyw." (Observations, t. 7—17.) Yr oedd rhyw gymaint o bwynt i'r sylwadau olaf i gyd yn ardaloedd y chwarelau wrth droed y Wyddfa, lle preswylid y dyffryndir yn bennaf gan chwarelwyr. Ond ar y goreu, y mae'r sylwadau yn sawru o fymryn bach o ddiffyg cydnabyddiaeth o du yr awdur â'r 'werinos' y sonia am danynt, er trigiannu ohono yn eu plith. Ond a chymeryd y sylwadau fel y maent yn eu crynswth, fe'u ceir yn gadarnhad nodedig i'r hyn a honnir o blaid dylanwad Methodistiaeth ar arferion, moesau a chrefydd Cymru.

Traetha Gruffydd Prisiart ei lên ar arferion, defodau, ofergoeledd a chrefydd Eglwysig, o safle ychydig yn wahanol.—"Un o ddefodion y wylnos fyddai gosod cynfas wen grogedig yr ochr bellaf i'r arch, yna gosod dail gleision a brigau bychain, a llwyau piwtar neu bres os byddent i'w cael, yn groes-ymgroes dros y gynfas i gyd. Yna gosod canwyllau goleuedig, dwy neu dair, ar yr arch gerbron y gynfas, fel y byddai'r olwg yn hynod brydferth. Ar ol