i'r clochydd ddarllen y gosber, elai un o'r teulu at y drws, rhag myned o neb allan heb dderbyn dogn o ymborth, yr hyn, pe cymerasai le, a ystyrrid yn sarhad ar y marw. Ac yn gysylltiedig â hyn yr oedd bendith-wers, i'w chyflwyno dros y byw a'r marw. Wedi hynny, ar ol rhyw ymddiddan neu gampau digrifol, ymadawent. Trannoeth, wedi dodi'r corff ar yr elor, byddai un o berthynasau y marw yn rhannu'r ddiodles' dros y corff, sef cypanaid o gwrw neu laeth a estynnid i ryw dlawd penodedig, ynghyda thorth dda, a dernyn o gaws â damn arian yn blanedig ynddo. Yna, wedi i'r tlawd hwnnw adrodd y fendith-wers dros y marw, a rhyw seremonïau eraill, cychwynnent tua'r llan. Wrth offrymu, os byddai y teulu o ryw barchedigaeth, deuai un o honynt ymlaen at yr allor i syllu beth a fyddai offrwm pawb. Os na byddai, yn ol ei feddwl ef, yn deilwng, ystyrrid ef yn sarhad ar y marw. Wedi gorffen y gwasanaeth, rhoi y corff i lawr, ac offrymu i'r clochydd, aent i 'hel y siot,' fel ei galwent. Byddai raid i hon, hefyd, fod i fyny â safon yr offrwm a'r barchedigaeth, neu ni thalai ddim. Ac yr oedd yn rhaid i'r yfed a'r gloddest a'r meddwi fod yn gwbl gyffelyb, fel erbyn y diwedd y byddai'r anhrefn wedi myned dros ben bob gweddeidd-dra ar y fath achlysur. Wedi gwasanaeth y priodasau, hefyd, aent yn uniongyrchol i'r tafarndai i yfed, canu a dawnsio hyd fore drannoeth, neu, os byddai gan y wraig ieuanc gartref lled dda, eid yn gynarach o'r dafarn er mwyn gorffen yn y tŷ. Y Saboth canlynol yr oedd y neithior. Ae y cwmpeini oll i'r llan i'r gwasanaeth y bore, yna aent gyda'i gilydd i'r tafarndai hyd yr hwyr neu drannoeth.
"Yr oedd gwr yn byw mewn tyddyn mynyddig (ni waeth heb ei enwi) yn y plwyf. Rhoes y gair allan ei fod wedi myned i gyfrinach y Tylwyth Teg, a'i fod yn derbyn arian ganddynt. A dyma wedd y gyfrinach. Yr oedd rhyw rai o'r tylwyth i ddod i'r tŷ rhwng pryd codi a boreubryd, ac i fyned i ystafell wely y gwr a'r wraig, ar ol trefnu'r ystafell ar eu cyfer. Nid oedd neb i fyned i mewn i'r ystafell bellach rhag cyffroi y tegyddion, hyd nes elai'r gwr yno. Gadewid demyn triswllt ar y gwely bob bore, a pharhaodd hynny am ysbaid led faith. Elai'r gwr bellach i Lanrwst, a phrynnai yno bynnau o wenith, peth tra amheuthyn, canys yr arfer oedd
Bara ceirch cadarn o flawd wedi rhuddo,
Ac ychydig o 'fen yn ac enwyn i ginio.