Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

byw yn ymyl Pont Aberglaslyn, yn llanwr selog. Bob Saboth cyn myned i mewn i'r llan, ymwelai â'r tair tafarn yn y pentref. Galwai am beint o gwrw, yfai bob un ar ei dalcen. Yn y llan, gostyngai ei ben i lawr ar ei liniau am gyntun. Un Saboth ymaflodd un o'r amaethwyr yn ei ymyl yn ei berwig, ac wedi ei lapio yn glap yn ei law, hitiodd yr offeiriad â hi yn ei dalcen. Cydiodd yntau yn y berwig, ond gan barhau i ddarllen, a throi cil ei lygad yn awr ac eilwaith at y man y daeth ohono. Ar amrantiad dyna'r berwig yn ol at dalcen y neb a'i taflodd, a dyna hi'n ha! ha! drwy'r holl gynulleidfa."

Ceir y nodiad yma gan Carneddog: "Yr oedd y bobl gyffredin yn credu y medrai rhai neilltuol, gyda rhyw nôd du ar eu cyrff, witsio. Yn wir, cadarnheir gan ddynion geirwir y medrent wneud pethau rhyfedd. Yr olaf a ystyrrid fel witsrag oedd Sian Nog. Byddai plant gwaethaf y pentref ofn pasio bedd Sian, druan, ac elent ar flaenau eu traed heibio. Y mae ei bedd digofnod yn ymyl y llidiart. Erbyn hyn y mae ofn tylwyth y gyfriniaeth ddu wedi llwyr gilio o'r ardal. Wedi dadgorfforiad y mynachlogydd, ac yn eu mysg Priordy y Santes Fair yn Eryri, fe adawyd y lle yn hanner adfeiliedig. Nid oed waddol i gadw offeiriad yma, a bu'r plwyf heb yr un gwr eglwysig yn trigiannu o'i fewn am gyfnod o ddau can mlynedd a mwy. Nid yw ficeriaeth Beddgelert yn hen, oblegid hyd tua 1801, ni chynhelid ond un gwasanaeth yn yr eglwys, a hwnw ar fore Sul, o dan nawdd person Llandecwyn. Yr oedd toreth y bobl yn anwybodus ac ofergoelus iawn. Yr oedd mab i un o ffermydd mwyaf y plwyf wedi cael ei wahodd i'r llan un bore Sul yn dad bedydd i blentyn cymydog. Pan ofynnodd y person iddo, a oedd efe yn credu yn Nuw Dad, Duw Fab, a Duw yr Ysbryd Glan? fe edrychodd yn syn, ac a atebodd, 'Na, yr wyf yn ymwrthod â hwy oll.' Un bore Sul braf o haf, yr oedd dau hen ffermwr yn myned adref o'r eglwys, pryd y cyfarfu gwr lled wybodus â hwy, a gofynnodd iddynt a oeddynt wedi cael pregeth go dda y bore hwnnw? 'Wel, do, am wn i, wir,' meddai un o honynt. Am beth yr oedd y person yn trin heddyw?' 'Am ryw Ioan Fedyddiwr.' 'Wel, gwarchod ni,' meddai'r llall ohonynt, 'rhyw greadur cyn- ddeiriog oedd hwnnw, 'roedd o'n medru byta locustiaid a mel gwyllt,' meddai Mr. Jones [sef y person]. 'Mi ddeydodd, hefyd, fod rhyw gnawas o hogan wedi deyd wrth i mam fod yn rhaid torri i ben o. Gwarchod ni! 'roedd o'n deyd rhyw straeon rhyfadd