ofnadwy heiddiw.' Yna hwy aethant ymlaen gan son am y fuwch yma a'r ddafad acw, a chodi cerryg oddiar y ffordd. Yr oedd y Beibl yn ddieithr i'r werin. Tystia'r cofnodlyfr priodasau na fedrai un o bob cant o'r merched sgrifennu eu henwau. Ni roddent ond croes. Medrai ychydig o'r dynion wneud prif lythrennau eu henw. Ni fedrai ond plant y boneddigion a'r prif ffermydd sgrifennu eu henwau yn llawn. Yn 1740 cawn fod un o gangen-ysgolion Griffith Jones Llanddowror yn y llan. Nodir fod rhif yr ysgolorion yn 62. Ni hysbysir pwy oedd yr athro. Yn 1764, ac yn ddilynol, yr oedd Robert Jones Rhoslan yn cadw ysgol yn yr un lle.'
Fe deifl sylwadau Mr. David Pritchard ar yr hen drigolion oleu ar eu nodwedd, ac a'n cynorthwyant i synio yn gywir am y dyn naturiol a'r dyn ysbrydol yn eu mysg. Fel yma y dywed (gan grynhoi): "Hoff bleser Wil y Tancia oedd adrodd barddoniaeth, a gwneud ambell i rigwm ei hun:
Eis i Feillionnen i chwilio am fawnen,
Ac eis i Dancia i geisio ei thoncio;
Fe roddodd Sali y pridd i'w losgi,
Ac aeth yn lludw fel y marw.
Arferai Sali bysgota gyda chawell yn y llyn yn afon Colwyn, a elwir ar ei henw hi, sef Llyn Sara. Yn yr haf hi a arferai wisgo'i hun mewn pais a betgwn a het silc, a gwerthai hosanau a darnau grisial i'r ymwelwyr. Yr oedd Modryb Catrin Prys yn byw ym Mryn melyn yn niwedd y ddeunawfed ganrif. Yr oedd hon yn ddefosiynol yn null yr oes honno. Hi ddarllennai lawer ar lyfrau proffwydi'r Hen Destament. Wrth agor Eseciel neu Ddaniel, hi ddywedai, megys wrthi ei hun, "Wel, gad glywed, fab dyn, be' sy genti i'w ddweyd.' Wrth agor ar y bumed o Eseciel, lle darllennir, 'Tithau, fab dyn, cymer i ti gyllell lem, cymer i ti ellyn eillio,' hi ddywedai, 'Wel, fab dyn, be' wyti am neud hefo nhw?' Adroddai'r pader a chredo'r Apostolion wrth fyned i'w gwely, ac, yn aml y rhigymau yma:
Pedwar post sydd gan fy ngwely,
Pedwar angel Duw o'm deutu;
A pheth bynnag ddaw i'm blino,
Duw, Mab Mair, ddelo i'm gwylio.
Mi rof fy mhen i lawr i gysgu,
Mi rof fy enaid i Grist Iesu;
A lle bynnag bydd fy niwedd,
Duw ddwg f'enaid i dangnefedd.