Ei hen forwyn, Sioned Prys, oedd yn hynod iawn yn amser y diwygiad mawr. Ar ol bod yn canmol y drefn i faddeu pechodau unwaith, gan neidio a gorfoleddu, ebe Catrin ei meistres wrthi, 'Dos i dy wely, a dywed dy bader, ac mi fydd yn haws iti gael i madda' nhw, ddyliwn i.' Yn amser Hugh Dafydd yn Gwastad Annes [Agnes], daeth dau o frodyr y wraig yma o Gae'r llwynog, Cwm Croesor, sef E. William a W. William. Hen lanc oedd. William William, a llawer a boenid arno o'r herwydd. Yr hyn a ddywedai yn ol fyddai, na phriodai efe mo neb byth, os na byddai ryw ffigiwr arni. Ymhen amser, fe gafas un a chlamp o ffigiwr arni, fel y tybiai efe. Ond dywedai Hugh Dafydd mai'r ffigiwr 9 ydoedd, wedi torri ei goes. Bu Dafydd Gruffydd, hen lanc eto, yn aneddu yn Gwastad Annes. Nid ae hwn i lan na chapel. Yr oedd teimlad dwys yn rhan y cyfryw yn amser y diwygiad mawr. Aeth John Jones Glan Gwynant ato. 'Wel, Dafydd Gruffydd, a ydych ddim yn meddwl y dylech fynd i foddion crefyddol, rhag ofn i'ch amser gwerthfawr fynd heibio?' 'Be' wyti'n feddwl, Sion,' gofynnai yntau, 'dywed yn blaen imi.' 'A fyddwchi ddim yn meddwl am farw weithiau, Dafydd Gruffydd?' 'Meddwl am farw, yn wir', ebe yntau, 'meddwl am fyw dy egni, y ffwl gwirion; mi fyddi'n siwr o farw yn ddigon buan wedyn, mi dyffeia'i di!' Ac ofer y troes y cais i'w ddarbwyllo. Mi glywais mai tri oedd yma yn amser y diwygiad mawr na welwyd monynt yn wylo yn hidl, yr hen lencyn hwn yn un o'r tri. Bu yma hen deiliwr a'i wraig yn nechreu'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a arferent dramgwyddo'n fynych wrth ei gilydd, a llawer gwaith yr ail-briodwyd hwy gan y cwnstabliaid. Yr oedd marchog y nodwydd yn bur ddefosiynol ei arferion, ac arferai ddweyd ei bader wrth fyned i'w orffwysfan. Tybiai'r wraig, druan, na wnelai hynny ond i flino ei meddwl hi. Un noswaith aeth yn ffrae wyllt wibwm rhwng y ddau ynghylch y pader, a'r canlyniad fu i'r pwythwr pert hel ei arfau ynghyd a chymeryd y goes, a'i gadael am byth. Edifarhaodd yn y man. Ymgymerwyd â cheisio eu cymodi, a deuwyd ymlaen i Fwlch derw. Y cymodwr a aeth i mewn yn gyntaf i wyneb y ddrycin. Ar ol hir ymdrafod, ol a blaen, cyrchwyd y nodwyddwr i mewn. Ei gyfarchiad cyntaf oedd, Wel, Begw! wyti'n foddlon imi gael deyd fy mhader bellach?' 'Ydechi'n gweld!' llefai hithau, 'dyma fo'n dechre arni hi ar unwaith eto. Ni threiai ddim byw hefo fo, waeth i chwi heb gyboli!' Er y cwbl, cymodi a wnawd, a dywedir y bu gwell heddwch rhagllaw, a chafodd
Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/121
Gwedd