y gwr lonydd i ddweyd ei bader. Mab Sygun bach oedd William Dafydd, a ddaeth i gyfaneddu i Dŷ Glan y llyn. Pan fu farw Gruffydd Jones Hafodydd, daethpwyd a hen dderw caled at William Dafydd i'w lifio at wneud arch. Wedi bod ohono ef a'i fab Robert yn llifio'n ddiwyd am gryn ennyd, heb wneud fawr o'u hol ar yr hen goedyn, meddai William Dafydd,—Wysti be', Bob, rhaid iti fynd i'r 'Fodydd i ddweyd wrthyn nhw am halltu'r hen wr yna, achos mi fydd wedi hen ddrewi cyn y llifiwn i'r hen goeden yma!' Pan ddigwyddws William Dafydd fod yn y Tŷ uchaf, Beddgelert, un tro, dyma Hugh Evans Meillionnen i mewn. Ar y ffordd yr ydoedd i weled yr anifeiliaid oedd ganddo'n pori yn Llanfrothen. Ac mewn cyfeiriad at hynny, ebe William Dafydd, mewn dull chwareus, ' Pe buasai sir Gaernarvon yma i gyd gan Hugh Evans, fe fuasai arno eisieu cae i'r dyniewaid yn sir Fon wedyn.' Holodd John Jones Talsarn William Dafydd unwaith ynghylch iechyd John Jones Glan Gwynant. Gwael iawn ydio'n wir,' ebe yntau. Mynegai John Jones ei bryder rhag mai colli'r dydd a wnae. 'Dwn i ddim, wir,' ebai William Dafydd. 'Mi rydwi'n barnu y rhaid cael rhyw Angeu heblaw'r un sydd y ffordd acw, ne ni chyll o mo'r dydd, mi dyffeia'i ol' Chwarddai John Jones wrth adrodd y sylw. Meddai William Dafydd ar lais mwyn, treiddgar. Yn absen John Jones Ty'n llwyn, efe a arweiniai'r canu ym Methania. Ond yr oedd gogwydd ei feddwl yn fwy at yr ysgafn a'r gwamal. Ar ol symud ohono i'r pentref, fe ganodd lawer i ddilyn tannau'r delyn yn y Goat Inn. Efe oedd y pencampwr ar yfed y chwart mawr. Gresyn oedd i William Dafydd gamddefnyddio'i dalent."
Cymerer eto rai o'r cymeriadau a ddisgrifir yn y Drych, gan ysgrifennydd a fagwyd yn Rhyd-ddu. Dyna Sion Emwnt Glanrafon. Eglwyswr oedd Sion, ond rhoir yr awgrym y byddai yn myned i'r capel ar dro weithiau. Eithr y person a'r boneddigion ydoedd y rhai y tyngai wrthynt, serch hynny. Rhaid fod Sion yn Rhyd—ddu fel aderyn brith ymhlith yr adar, gan y dywedir yr elai'r holl ardal ynghyd i gapel Rhyd-ddu. Dywedir fod lliaws ohonynt heb broffesu, er yn hynod o selog ymhob cyfarfod ond yr un eglwysig. O ran ei agwedd allanol, gwr tal, esgyrniog a chryf y dywedir fod Sion. Gwyllt fel blaidd ar y funud, debygid, ydoedd, ac yn gallu rhoi dyrnod fel duryn eliffant; ond pan nad oedd yr helynt yn un bwysig, ac heb fod egwyddor yn cael ei haberthu, yn swatio y funud nesaf ac yn myned fel oen llyweth, gan gymeryd