yn ganiataol fod popeth o'r goreu rhyngddo a'i wrthwynebydd o hynny'n mlaen. Ac felly yn gyffredin y digwyddai. Heliwr cadarn ydoedd, a'i gampau helwriaethol yn adnabyddus drwy'r fro. Drwy'r cwbl, yr ydoedd yn ddyn syml, diddichell, difrad, gonest, geirwir, cymwynasgar. Cas gan ei enaid ydoedd pob dyn celwyddog, anonest. Yn y tŷ a aneddai yr oedd bwydo teithwyr yn ddeddf ers degau o flynyddoedd cyn i Sion fyned yno, eithr fe gariodd yntau'r arfer ymlaen. Er galw o bryd i bryd yn ei dŷ, ni welodd yr ysgrifennydd mono gymaint ag unwaith â'i drwyn mewn llyfr, megys y mae arfer rhai. Er hynny, fe wyddid fod ganddo'r parch dyfnaf i Dduw a threfn rhagluniaeth, a dywedir, pe o'r ddeddf y buasai bywyd, yna y buasai rhagolygon Sion yn ddisglair iawn. Gresyn, er hynny, na chafodd Sion mo'r weledigaeth, ac iddo "fethu torri trwy." Ond ni wyddis mo ffordd y Brenin yn gyfangwbl. (Gorffennaf 3 a 24).
Sonir hefyd am hen lanciau Clogwyn y gwin. Dywedir fod llawer wedi ei ysgrifennu am danynt, a llawer o hynny yn anwiredd. Fe ddichon, er hynny, fod yr hyn oedd yn anwiredd mewn ffaith, yn wir mewn idea, neu ynte pa fodd y mae llyfr fel Hunangofiant Rhys Lewis yn wir ar ei hyd, fel y gŵyr pawb ei fod. Y mae chwedlau gwlad yn rhyw fath o ymylwaith ar y gwir gymeriad, ac yn addurn arno yn aml, os nad oes pobl faleisus yn trigiannu y ffordd honno. Pa ddelw bynnag, ni gyfyngwn ein hunain yma i'r gwir noeth. Dynion hynod am eu nerth a'u grymuster, ac mor hynod a hynny am eu geirwiredd a'u huniondeb oedd hen lanciau Clogwyn y gwin. Eithr fel y mae gwrthddywediad yn hanfod gwirionedd, felly yr oedd hen lanciau Clogwyn y gwin yn llawn direidi a chastiau drwg. Nid diogel iawn fyddai neb—nid am ei hoedl, y mae'n wir—ond eto am iechyd llawn ei gorff, a gymerai fantais anheg ar y gwan, neu a gyflawnai weithredoedd llechwraidd. Clywodd yr ysgrifennydd ei dad yn adrodd am un tro digrif. Ar brynhawngwaith tesog, a hithau yn ddiwmod cneifio yn Nrws y coed, yr oedd gwr dierth o'r Deheudir i bregethu yn Rhyd-ddu. Yn ol trefn a defod gorfod oedd ar rywun o bob tŷ fyned i'r cneifio, ac felly yr aeth un o'r brodyr yno. Codi'n fore, dechre cneifio yn gynnar, gweithio'n galed, er mwyn bod yn yr oedfa yn brydlon, os gellid. Ond dyma Robin o'r diwedd wedi gorffen ei lwdn olaf, ac ymaith âg ef, gyda'r gwellaif a'r pastwn a'r cnuf gwlan dan ei gesail, a phump neu chwech o gwn bugail yn ei ddilyn. Ffrystio