Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/132

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Bellach y mae cyfnod newydd yn dechre. Wrth gael ambell i oedfa yn awr ac eilwaith, gwelwyd angenrheidrwydd am ffurfio cymdeithas eglwysig. Daeth atynt ddynion cymwys o leoedd eraill i'w cynorthwyo. Sefydlwyd cymdeithas, ffurfiwyd rheolau, penodwyd swyddog, sef Henry Tomos. [Sef yn y Tŷ rhisgl, ar dir y Corlwyni, ebe Carneddog]. Ond llawer o'r rhai oedd wedi ymwasgu at y diwygiad a aethent yn eu hol. Ni fynnent ymostwng dan unrhyw iau. Pan ddeuai cynghorwr i'r ardal, ni ddiangai heb ryw gymaint o amharch, ac anhawdd fyddai cael llety iddo. Clywais am wreigan weddw oedd yn byw mewn lle a elwid yn Cae'r myngis, ddarfod iddi lawer noswaith orwedd yn ei dillad ar gaead ei chist, er mwyn i'r cynghorwr gael ei gwely. Un o'r mannau cyntaf a agorodd heblaw yr Hen odyn oedd y Corlwyni. Enillwyd y gwr a'r wraig at grefydd yn lled fuan ar ol i'r pregethu ddechre, er eu bod gynt yn dra gelynol. Clywais y wraig yn adrodd ymhen blynyddoedd mor elynol ydoedd. Byddwn yn dymuno i rywbeth fynd â phennau y tai i ffwrdd y byddai pregethu ynddynt, ond o drugaredd y mae fy egwyddor wedi newid.' Bu ei thŷ ar ol hynny yn noddfa i bregethu a phregethwyr ysbaid maith. Yma y gwelais innau bregethwr gyntaf. Hefyd ysgwyd llaw â phregethwr, sef Arthur Jones. Un tro, yr oedd cyhoeddiad Gruffydd Jones Ynys y pandy [Ty'n llech wedi hynny] i fod yno i bregethu. Daeth lliaws ynghyd, yn eu plith ddau lanc o'r ardal (waeth heb eu henwi). Llanwasant eu pocedau â phridd y wâdd, a dringasant i'r llofft oedd yn lled agored, gan gyfleu eu hunain uwchben y fan y safai y pregethwr. Wedi dechreu'r oedfa, dech- reuasant ollwng y pridd i lawr, drwy gysylltiadau yr hen lofft, yn gymwys ar y Beibl oedd yn ei law. Taflai yntau ef ymaith yn awr ac eilwaith, gan ganlyn ar ei bregeth. O'r diwedd darfu'r pridd, ac yna nid oedd ganddynt ddim i'w wneud ond gwrando. Daeth llewyrch neilltuol gyda'r oedfa. Cafodd y ddau yn y daflod. ddwysbigiad. Daethant i lawr ystrym ystrym gan waeddi a nadu am y mwyat. Ymunodd y ddau â'r achos ymhen ychydig, a buont wasanaethgar gydag o. Tro rhyfedd oedd hwn.

At yr adeg yma mi briododd Henry Tomos, a rhoes goreu i gadw'r ysgol. Ymaflodd ysgolheiges iddo, o'r enw Elin Tomos, yng ngwaith yr ysgol am ysbaid, nis gwn pa hyd. Un wir grefyddol ydoedd, a chefais dystiolaethau iddi fod o les i'r rhai ieuainc. Bu yn cadw ysgol Sabothol yn llofft ystabl Caeddafydd. Marsley Powel