cesyg. Cedwid, hefyd, ambell seiat gyda'r plant. Yr oedd gan y plant ambell gyfarfod gweddi yn y Cwt arnynt eu hunain. Ar ganol eu gorfoledd un tro, rhedodd un o foneddigion palas Dolfrïog oedd gyferbyn â hwy at y fan, pwysodd ar y ddôr o wiail plethedig, pan y cwympodd y ddôr i mewn i'r cwt, ac yntau yn rhemwth arno. Ar y pryd yr oedd y plant yn canu y darn pennill yma:
Mae Satan ar lawr,
Mae hyn yn beth mawr,
A'r adar yn canu ar doriad y wawr.
Ar hyn ffyrnigodd y creadur, a dechreuodd regi a melltithio, ond ni chyffyrddodd â'r un o'r plant. Yr oedd boneddigion Dolfriog yn dra gelynol i'r grefydd newydd, a rhoddent bob sarhad a allent arni. Taflodd rhywun y ddôr yn y man i lifddwfr yr afon gerllaw, a chludwyd hi ymaith. Yna cynhelid y moddion yn y Cwt coch, ac mewn corlannau a lleoedd neilltuedig. Gwelwyd anfoddlonrwydd perchen y gwaith ar y teulu erlidgar, a hynny yn fuan.
"O'r diwedd dechreuwyd sibrwd ynghylch cael ambell oedfa. Cafwyd gan Robert Jones Rhoslan addaw dod. Awd i dŷ gwag ar fferm y Corlwyni, y buwyd yn cadw rhisgl ynddo. Adroddaf helynt yr oedfa fel y derbyniais ef o enau un oedd yn y lle,—' Wedi imi glywed ynghylch yr oedfa, a'r peth mor newydd, a hefyd fod y tŷ rhisgl ar dir fy nhad, aethum i lawr gan weu fy hosan. Yr oedd yn ddiwrnod teg, braf. Erbyn mynd yno, yr oedd lliaws wedi dod ynghyd, ac, fel finnau, amryw yn gweu eu hosannau, ac eraill yn ymddiddan yn lled gellweirus. Ond daeth y pregethwr a dechreuodd, a ninnau yn parhau i weu, tra yr oedd eraill yn lled afreolus. Dringai rhai i ben y tŷ gan feddwl cyflawni rhyw aflonyddwch. Er y cyfan, yr oedd y pregethwr yn mynd ymlaen. Ond yn ddisymwth dyna fellten, ac ar darawiad taran arswydus nes oedd pawb yn delwi. Ymataliodd y pregethwr am funud, gan edrych o'i gwmpas. Wrth weld y bobl wedi brawychu, ymaflodd yn y Beibl, gan ei ystyn hyd ei fraich atynt. 'Bobl!' meddai, yr ydym wedi brawychu yn fawr wrth glywed y daran. Beth am y gair sydd yn hwn?' Saethodd y gair hwnnw i fy nghalon, ac nid aeth oddiyno hyd heddyw. Ni bu dim aflonyddwch wedi hynny, ond pob rhwyddineb i bregethu.' Er mai hon oedd yr oedfa gyntaf erioed, fe ddichon, gan y Methodistiaid yn yr ardal, fe fedyddiwyd un â'r Ysbryd Glan. Ei henw oedd Jane Richard.