12 milltir o ffordd, yr un noswaith. Yr oedd ewythr Robert Dafydd, y lletyai gydag ef, yn wrthwynebol i'r grefydd newydd, ac ni fynnai mo'r arfer yma. A dyna fel y mudodd Robert Dafydd i Frynengan. Aeth Owen Tomos i Fôn. Yr oedd Robert Jones eisoes wedi ymadael. Dywedir yn y Methodistiaeth y bu hyn yn ergyd drom i'r achos bychan a gychwynasid. Ni amserir mo'r cychwyniad. Nid anhebyg fod yma fath ar seiat neu gyfeillach ysbrydol cyn ymadael o Robert Jones â'r lle. Dywedir y bu'r 'achos' dros ryw dymor mewn llewygfa drom, neu, fe ddichon, yn fwy manwl, nad oedd yma ddim o'r fath beth ag achos. Ymhellach ymlaen fe ddywedir mai pan yr oedd pregethu yn cael ei gynnal mewn hen adeilad a elwid y Stamps y ffurfiwyd y gymdeithas eglwysig gyntaf (II. 200). Cesglir nad oedd dim pregethu cyson ym Meddgelert yn 1771, sef y flwyddyn y bu Dafydd Morris drwy'r wlad, gan na fu ef yma y pryd hwnnw.
Bellach, dilynir ysgrif Gruffydd Prisiart. "Thomas Prisiart Aberglaslyn oedd clochydd y llan. Ei fab Harri a brentisiwyd yn grydd. Wedi gorffen ei brentisiaeth danfonwyd ef i Fotwnog gyda'r amcan o'i ddwyn i fyny yn wr eglwysig. Ymwelodd yr Arglwydd âg ef yno mewn argyhoeddiadau dwfn. Dychwelodd adref gan ymwrthod â'r meddwl am fod yn wr eglwysig, er blinder i'w dad. Profodd ŵg y teulu. Yn y man cychwynnodd ysgol mewn beudy a elwid yr Hen odyn, ar dir Caeddafydd yn Nantmor, a breswylid gan Owen Owens. ["Hen gartref Dafydd Nanmor oedd Cae Ddafydd. Saif ar y llethr, yr ochr ddehau, uwchben y dyffryn lle gorwedd Hafod garegog, hen gartref Rhys Goch Eryri. Y mae'r Hen odyn ychydig yn uwch i fyny. Y mae'r Cwt coch yn adfeilion ychydig uwchlaw'r ffordd. Y mae plasdŷ Dôl y frïog am y nant a'r Hen odyn." Llenor, 1895, t. 25, nodiad]. Tua 1783 y bu hyn, tua 80 mlynedd yn ol. [Y mae Carneddog yn awgrymu'r amseriad 1779, a noda allan o'r cofnodion plwyfol fod Harri wedi ei fedyddio Mawrth 14, 1760]. Ychydig oedd gydag ef, ond ymroes i'w dysgu, a gweddiai gyda hwy, a phregethai iddynt weithiau. Ymhen ysbaid dechreuai rhieni'r plant ac eraill gyrchu i'r ysgol yn awr ac eilwaith. Ymhen ysbaid drachefn torrodd yn ddiwygiad ymhlith plant yr ysgol, a elwid yn ddiwygiad y plant. Gorfoleddai y plant. Wrth weled yr effeithiau hyn, ymwasgodd mwy eto at yr ysgol. Dechreuwyd cynnal cyfarfodydd gweddi yma ac yn y Cwt coch, cwt ar Caeddafydd lle diddyfnid ebolion