Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/136

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

diwedd ag y ciliodd oddiwrth yr achos yn gwbl tra fu byw. Cyn hir, yn ddyn ieuanc, syrthiodd i afael afiechyd a fu'n angeu iddo. Yn ei selni yr oedd yn gryn ystorm arno oherwydd ei wrthgiliad. Dywedai nad oedd ganddo ddim am dani ond yr hyn oedd gan y gwahangleifion hynny wrth fyned i wersyll yr Asyriaid, 'Os cadwant ni'n fyw, byw fyddwn.'

"Yr adeg yma, symudodd Henry Tomos i gymdogaeth Waenfawr, yna i dyrnpeg Llangwna, yna i dyrnpeg Dolydd byrion yn agos i Lanwnda, lle bu farw. Yr oedd yn ddarostyngedig i'r llewygfeydd o bruddglwyf wedi ymadael oddiyma, ond dywedir fod rhyw lewyrch neilltuol ar ei ysbryd tua diwedd ei oes. Y tro diweddaf y gwelais ef oedd mewn cymanfa yng Nghaernarvon. Yr oedd, er yn hen wr, mewn tymer nefolaidd, yn canmol ei Waredwr. Teimlais rywbeth wrth ei wrando nad aeth yn angof gennyf eto. Er ei symudiadau, yr oedd wedi casglu swm o gyfoeth. Yr oedd ganddo £60 yn llog ar gapel Moriah, a adawodd yn ei ewyllys ddiweddaf yn rhodd iddynt. Bu'n offeryn, er ei lewygfeydd a'r cwbl, i gychwyn gwaith mawr, megys y gwelir heddyw. Heddwch i'w lwch.

"Bellach yr oedd eisieu swyddogion newydd, a neilltuwyd William Sion o'r Gefnen a William Williams o'r Ffridd, dau wr cyfrifol a gwir ddefnyddiol, a hynny tra buont. Ond daeth y tymor i ben yn Nhŷ'n y coed eto, drwy i angeu symud penteulu Meillionnen i'r bedd. Daeth arall yn feddiannydd arno, ac ni chaniatae i bregethu fod yno mwyach. Digwyddodd ar y pryd fod tŷ gwag yn y pentref, sef Pen y bont fawr. Cymerwyd ef ar ardreth. [Tua 60 neu 63 o flynyddoedd yn ol, meddir ym Meth. Cymru, neu rhwng 1791 a 1794, a chyfrif o adeg cyhoeddi'r ail gyfrol. Dywedir hefyd mai tua 40 oedd rhif yr aelodau y pryd hwnnw. Tua'r flwyddyn 1794 y dywedir yr adeiladwyd y capel.] Dyma ddechre cyfnod newydd eto ar yr achos. Chwanegwyd y gwrandawyr, a chaed chwanegiad a mwy o amrywiaeth o bregethwyr. Dewiswyd swyddog yn chwanegol, sef Rhys William Hafod llan. Cafwyd yma gyfarfod misol, y cyntaf erioed yn y lle y mae'n debyg. Cynhaliwyd y pregethu ar yr heol o flaen drws y Tŷ uchaf, a'r garreg farch oedd y pulpud. Pwy oedd y pregethwyr nis gwn, heblaw Robert Roberts o Glynnog. Clywais un yn adrodd ei bod yn clywed ei lais pan yn pregethu chwarter milltir o bellter oddiwrtho. Bu symudiad yr achos i'r pentref yn foddion i'w ddwyn yn fwy i wyneb erledigaeth. Yr oedd erbyn hyn wedi dod i ymyl