ffau un o'r llewod, a oedd yn byw yn y Tŷ isaf yn union gyferbyn a Phen y bont fawr. Yr oedd ganddo was o'r un duedd ag ef ei hun. Pan fyddai pregeth, rhoe i'r gwas ddogn da o drwyth Syr John, yna anfonai ef allan i lan yr afon i luchio cerryg i'r tŷ, os gallai. Un tro bu am awr yn ceisio lluchio cerryg drwy'r ffenestr, ac er nad oedd ond oddeutu 20 llath oddiwrthi methodd a thaflu un garreg i mewn. Brydiau eraill rhoe hen wisg ddierth am dano, a chan orwedd ar y bont, gwnae nadau drwg, a bygythiai gyda llwon y byddai iddo'u lladd. A chan mor fwystfilaidd yr olwg arno, byddai'n peri arswyd ar lawer o'r benywod. Brydiau eraill elai'r llew ei hun i'w cyfarfod, a chasglai dwrr o gerryg, a lluchiai hwy'n ddiarbed nes yr elent dros y bont. Weithiau lluchiai'r dom atynt. Clywais un yn adrodd, er cymaint o luchio a fu ar eu holau, na tharawyd neb â charreg, ond y bu y dom hyd-ddynt lawer gwaith. Un Saboth gorfu i Mr. Richards Caernarvon gadw oedfa yn nrws Pen y bont. Ar y pryd daeth y llew allan o'i ffau yn lled feddw, gan dyngu â mawr lwon, os na thawai, y deuai, ato ac y rhoddai'r bigfforch drwy ei berfedd. Ond yn gymaint nad ymataliai y pregethwr, dyma fe yn dod gyda'r bigfforch, gan dyngu hyd i ganol y bont, pryd yr ymaflodd rhyw ddirgrynfa ynddo, a throes yn ol. Cymerodd ail feddwl drachefn, a methodd ddyfod gam ymhellach yr ail dro. Ac yn gyffelyb y trydydd tro. Yr oedd y dirgryniad yn ymaflyd ynddo bob tro yn yr un fan. Felly cafwyd llonyddwch y tro yma hefyd. Nid rhyw lawer o lwyddiant a fu ar y teulu yma mwy na theuluoedd eraill a fu dan sylw. Yr oedd amryw eraill yn gydgyfranogion yn y gwaith pechadurus, na waeth imi heb sôn am danynt.
"Yn yr ysbaid yma defnyddiodd y gelyn foddion eraill. Daeth apostolion Mari'r Fantell Wen yma. Un yn unig a enillodd y rhai'n i'w ffydd, ac nid hir y buont heb droi eu cefnau. Enillasant ugeiniau mewn lleoedd eraill i gredu eu ffoleddau. Plaid arall ddaeth yma yr un pryd oedd teulu Moses Lewis, fel y galwai'r hen bobl hwynt. Buont yn cynnal pregethu mewn lle o'r enw Tŷ hen, ac ym Mwlch y garreg [ar dir Hafod llan]. Enillodd y rhai'n dros ychydig blaid fechan dra selog. Brodor o dueddau Llanrwst oedd y Moses hwn. Yr oeddynt yn dal nad oeddynt yn pechu ar ol cael tro, ac mai yr hen ddyn' oedd yn cyflawni'r cwbl yn ol hynny. Eu prif ddull o gynnal eu moddion oedd canu, canu eu gweddiau a'u pregethau a'r cwbl. Yr oeddynt yn sylfaenu hyn ar y geiriau yn y