Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/138

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Salm, 'Cofio yr ydwyf fy nghân y nos, sef gweddi ar Dduw fy einioes. Yr oeddynt yn dra gelynol i'r Methodistiaid. Gwaeddent ar eu hol, nodent hwy'n gyfeiliornwyr, ynghyda phob dirmyg a allent roi. Ni buont o hir barhad: diffoddasant fel clindarddach drain dan grochan.

"Dechreuwyd sibrwd am gapel. Yr oedd anhawsterau mawr ar y ffordd, oherwydd rhagfarn tir-feddianwyr at ymneilltuaeth. Eithr fe ddigwyddodd i etholiad seneddol gymeryd lle, ac aeth yn frwydr galed rhwng Lord Bulkeley a Syr Robert [Williams] Plas y nant. Yr oedd gan W. Williams y Ffridd vote. Addawodd Syr Robert unrhyw gymwynas iddo am dani. Derbyniodd yntau'r cynnyg ar yr amod ei fod yn rhoi lle i adeiladu capel. Aethpwyd ynghyd âg adeiladu ar unwaith. Nid oedd y capel cyntaf hwn ond bychan a diaddurn, a'i faintioli yn rhywbeth oddeutu 8 llath bob ffordd, ac heb eisteddleoedd iddo ond dwy, un o boptu'r pulpud. Ar y cyntaf nid oedd meinciau ynddo ond yn unig wrth y mur. Ond ymhen amser daeth y naill deulu a'r llall â mainc i'w gosod ar ganol y llawr. Pridd oedd y llawr. Yn y gaeaf taenent gnwd. o frwyn drosto, gan y byddai'r llawr ar dywydd gwlyb yn slut slot. [Siloam yw'r enw. Dywed Carneddog fod y resêt am yr adeiladu ar gael, ac y rhed fel yma: "This is a Memorandum, that we, Robt. Roberts and Robt. Parry, Received of Rice Williams, on account of the Chapel Built at Bethgelart, the sum of Sixty five Pounds, in full of all Demands, as Witness our Hands, the 25th Day of November, 1797. Pd. us Robt. X (the mark of) Roberts, Do. of Robt. X Parry." Codwyd y capel yn 1794, er na thalwyd mo ofynion y seiri hyd 1797.] Hefyd yr oedd tŷ bychan yn gysylltiedig âg e, cynwysedig o lawr a llofft. Yn y llofft yr oedd y cyfleustra byw. Y gyntaf a gyfleasant yma i fyw a gweinyddu i'r achos oedd gwreigan weddw o'r enw Sian Roberts, y soniais am dani o'r blaen, y byddai'n gorwedd ar y gist er mwyn i'r pregethwr gael y gwely. Yn y llofft fechan yma y buont yn cadw eu seiadau am oddeutu 20 mlynedd. Dull y moddion yn gyffredin fyddai seiat nos Sadwrn, oedfa yn Hafod llan fore Saboth, ac yn y capel at un ar y gloch. Ar ol yr oedfa yma dychwelai'r pregethwr adref. Dyna'r cynllun am flynyddoedd lawer, ond y byddai pregethu yn Nantmor, weithiau yn y Tylymi, ac weithiau yn y Corlwyni.

"Nid hir ar ol y symudiad y bu farw William Sion o'r Gefnen. Yr oedd William Sion yn wr hynod gyfrifol gan y cyfeillion. Son-