ient am dano gyda phob parchedigaeth. Dywedent mai bugail tyner, gofalus ydoedd, o duedd i gynnal a chysuro y gweiniaid. ["Un o golofnau cadamaf yr achos. Dywedir ei fod yn dra hyddysg yn yr ysgrythyrau, ac yn wr hynod ddiargyhoedd ei ymarweddiad. Perchid ef gan wreng a bonheddig." Llenor, t. 39]. Ond yr oedd gan berchen y gwaith wrth law un cymwys i lanw ei le, sef Robert Roberts, gwr oedd yn byw ar y pryd mewn tyddyn o'r enw Clogwyn yn Nantmor.
"Yr oedd y cyfnod o'r symudiad i'r capel hyd y diwygiad mawr yn un pwysig, yn gymaint a'i fod yn fyd da, drwy fod prisiau uchel ar bob da gwerthadwy, a hynny o achos y rhyfel yn amser Napoleon Fawr. Yr oedd meddwdod fel llifeiriant yma, ac yr oedd yma gyfarfodydd blynyddol fwy nag a fu un amser, hyd y gwyddis. Pan adeiladwyd y gwestŷ, yr hyn a fu tua dechreu'r cyfnod, sefydlwyd helwriaeth flynyddol er cynorthwy i'r tŷ, pryd y deuai Mr. Rumsey Williams yma â haid o helgwn, ynghyda helddyn. Ac heblaw y rheiny byddai haid o foneddion corachaidd o amryw leoedd yn cydgyfarfod, a mawr fyddai'r gloddest a'r meddwi. Ymgasglai lliaws o'r ieuenctid o'r nentydd yno atynt, ac yna curo a baeddu ei gilydd, heblaw llawer o anfoes arall. Wedi i'r tafarnwyr eraill ddeall fod elw da oddiwrth yr helwriaethau, penderfynasant hwythau feddu helwriaeth flynyddol. Erbyn hyn dyma dair o helgwn-wyliau blynyddol yn y pentref. Yr adeg yma yr oedd ysbryd ymladd wedi codi i ryw frî hynod. Beth bynnag fyddai sefyllfa neu gymeriad unrhyw lanc, ni thalai nodwydd os na byddai'n ymladdwr. Ac yn gymaint ag nad oedd neb yn fawr ond yr ymladdwr, yr oedd pawb yn meithrin y cyfryw ysbryd; ac yn gymaint ag y byddai rhyw gweryl yn gyffredin rhwng trigolion Nantmor a'r nentydd eraill, byddai yma ymladd gwastadol. Diwrnod arall llygredig i'r eithaf oedd diwmod gosod y degwm. Rhennid diod yn helaeth, a mawr y cyrchu o bedwar ban plwyf, a phob tro, mawr fyddai'r meddwi a'r ymladd, a mawr y llid a'r genfigen ar ol y diwrnod. Yr oedd y priodasau a'r claddedigaethau a'r nosweithiau llawen yn warthus o anuwiol yn y cyfnod yma. A'r cocin saethu oedd gydgyfarfyddiad tra llygredig. Y ffeiriau oedd gyffelyb—meddwi ac ymladd fyddai bob amser ynddynt. Y Saboth a halogid mewn amryw fodd, weithiau drwy feddwi, a chasglai ieuenctid at ei gilydd i gynnal chwareuaeth o bob math yn y naill le a'r llall.