"Dyma'r pryd yr ail-gychwynnwyd yr ysgol Sabothol, ar ol yr ysbaid y bu Elin Jones yn ei chynnal. Boddloner ar yr hyn ddywedaf o barth iddi yn ardal Nantmor, oblegid yno yr oeddwn ar y pryd. Yn y nos, ar y cyntaf, y cynhelid hi, a hynny yn y gaeaf. [Nodir gan Carneddog mai y rhai offerynol yn sefydliad yr ysgol y pryd hwn oedd Robert Roberts Clogwyn, John Prisiant Corlwyni, William Williams Cae Ddafydd, Richard Williams Cwm bychan, y tri brawd, Robert, Richard a Hywel Gruffydd o'r Carneddi. Tŷb Cameddog i hyn ddigwydd tua 1787. Dywed, hefyd, fod arswyd Hugh Anwyl y Ddolfrïog ar y rhai anwybodus yn gryn rwystr ar ffordd sefydlu'r ysgol, gan yr arferai bob math ar fygythion. Nodir, hefyd, fod Owen Gruffydd yn dipyn o brydydd a chanwr carolau.] Y lle cyntaf yr wyf yn ei chofio yw tŷ Owen Gruffydd Bwlch gwernog, ond y tymor nesaf symudwyd hi i'r Tylymi, yna i Aberglaslyn, yna i Ddolfriog yna i'r Tylymi yn ol, wedi hynny i Ddolfriog drachefn. [Yr oedd yr hen berchennog, Hugh Anwyl, erbyn hynny yn fethdalwr, a'i stâd wedi ei gwerthu. Carneddog.] Diffoddodd am ysbaid. Adlewyrchodd drachefn yn y Ddinas ddu. Yna i'r Tylymni am y trydydd tro. Yno yr arhosodd hyd y cafodd breswyl yng Nghapel Peniel. Cynhelid hi yn y gwahanol leoedd hyn weithiau'r dydd ac weithiau'r nos. Ar y cyntaf yr oedd llawer o bethau heb fod yn ddymunol mewn cysylltiad â hi, yn enwedig pan gynhelid hi yn y nos. Er hynny bu'n fendith. Dysgodd lawer o honom i ddarllen, ac yr ydym wedi mwynhau ei chynyrch ar hyd ein hoes.
"Er fod tymor y lluchio cerryg a dom wedi myned drosodd, eto yr oedd llawer yn elynol i grefydd. Byddai'r pregethwyr yn dychwelyd â'u teimladau yn friwedig gan mor anhawdd pregethu yma. ["Aeth yn ddywediad cyffredin gan amryw, 'Mae'r fan a'r fan mor galed a Beddgelert." (Goleuad Cymru.)] Ni chwanegwyd braidd neb at yr eglwys o fewn corff ugain mlynedd, oddigerth tri o fewn ychydig i doriad y diwygiad. ["Ym mis Mawrth daeth un, er syndod a llawenydd i amryw; a thua dechreu'r haf daeth dau neu dri eraill." (Goleuad Cymru.)] Yr oedd pawb a ddilynai'r achos yn hen neu ganol oed, oddigerth y tri a nodwyd, ac nid oedd eu nifer yn llawn deugain, er fod yr achos wedi ei gychwyn ers deuddeg neu bymtheg ar hugain o flynyddoedd [1782-5, gan gyfrif yn ol o 1817 mae'n debyg]. Ond yr oeddynt yn rhai gwirioneddol dda, ac wedi ymwregysu â ffyddlondeb. Ychydig flyn-