i'r pentref i'w cyfarfod a'u gweled a'u clywed. [Yr oedd llond capel yn y seiat nesaf yn y pentref, a dylanwad neilltuol iawn, yn ol Robert Ellis (t. 229). Yn ol Gruffydd Prisiart, yr oedd y dylanwadau yn gyfyngedig y pryd hwnnw i bobl Nant Gwynant, ond y tyrrai eraill yno i'w gweled. Nid "llond capel o ddynion ar ddarfod am danynt" eto, ond y rhan fwyaf yn cael eu cymell gan gywreinrwydd yn bennaf.] Wedi i'r diwygiad ddechre yn y Nant, ni symudodd oddiyno nes marcio yr oll bron oedd i gael eu torri i lawr. Ond daeth yr amser iddo symud. Ar y Saboth blaenorol i ffair Gwyl y Grog [syrth yr wyl ar Medi 21 yma] yr oedd yr holwyddorwr yn yr ysgol yn cynghori y bobl ieuainc i ymddwyn yn weddaidd yn y ffair, pan y disgynnodd rhyw ddylanwad neilltuol arno ef a phawb yn yr ysgol. Torrodd bron bawb i wylo a rhai i waeddi allan. Wedi dechre fel hyn, enynnodd yn rymus drwy'r pentref a'r cymdogaethau hyd Ddrws y coed. [Byddid yn y capel yn aml am chwe awr, ebe John Jones, er fod gan rai o 3 i 6 milltir i'w cerdded adref.] Gorfu rhoi dwy seiat bellach yn yr wythnos, ac un arall o flaen oedfa prynhawn Saboth. A braidd, er hynny, y deuid i ben âg ymddiddan â'r dychweledigion. Ymwelwyd â'r lle gan amryw bregethwyr ar y ffordd i gymanfa Pwllheli. Yn eu plith daeth Eben Richards Tregaron. Cafodd oedfa lewyrchus yn y pentref nos Sadwrn, ac un fwy felly yn Hafod rhisgl bore drannoeth, pan y daeth amryw i'r seiat o'r newydd. Yr oedd yma Gyfarfod Misol y mis dilynol i'r un y torrodd y diwygiad yn y pentref arno. Yr oedd yma ddieithriaid o'r holl barthau cylchynnol. Daeth bagad o Ddolyddelen, ac yn eu plith Cadwaladr Owen; a dyma'r pryd y daliwyd ef. ["A dywedir eu bod wrth groesi'r mynydd yn llawn cellwair, a Chadwaladr Owen mor gellweirus a neb; ond daethant adref yn ol wedi eu lladd. . . ." (Cofiant R. Ellis, t. 231)]. Bu'r cyfarfod hwn yn ysgytfa o'r newydd i'r rhannau o'r plwyf lle'r oedd y tân wedi dechre ennyn. Ar seiat brynhawn Saboth weithiau, byddai tyrfa lond y cowrt wedi ymgasglu, a byddai dylanwad y swn oddifewn yn disgyn yn ddisymwth ar rai oddiallan. Un tro, pan oedd y lliaws ynghyd hyd at y drws, wrth glywed y swn, meddai un wrth ei gyfaill,— 'A ddoi di i fewn?' 'Na ddof' oedd yr ateb. 'Wel, ffarwel iti ynte!' ac i fewn ag ef, a rhoes floedd fawr, 'Bobl anwyl! pa beth a wnaf?' Ar hynny torrodd allan yn waeddi mawr, a dyna hynny o seiat a fu y pryd hwnnw; a gwaeddi mawr a fu am oriau, a mawr lafur fu i'w gostegu er mwyn cael oedfa. Fel hyn yr aeth y
Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/143
Gwedd