Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/144

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

diwygiad ymlaen am bedwar mis, sef hyd y Nadolig, pan yr oedd dros gant wedi ymuno â'r achos. Ond nid oedd un wawr wedi torri eto ar ardal Nantmor. Nos Sadwrn, o flaen y Nadolig ar y Saboth, yr oeddwn i a'm chwaer adref yn y Tylyrni yn gwarchod, a'n rhieni yn y pentref yn y seiat fel arfer. Tua 9 o'r gloch aethum i gongl yn y tŷ lle'r oedd ffenestr led fawr yn agored uwch fy mhen. Yn ddisymwth clywn ganu yn gymwys uwch fy mhen gan ryw liaws aneirif, fel y tybiaswn; a meddyliais ar y cyntaf fy mod yn eu deall, ond erbyn ail ystyried nid oeddwn yn deall un gair. Ond yr oedd y sain fel sain tyrfa fawr, ac o natur mwy soniarus na dim a glywodd fy nghlustiau o'r blaen nac ar ol hynny. Yr oeddwn yn tebygu ar y pryd fod fy nghyfansoddiad oll yn ymddatod gan rym y swyn a'r beroriaeth. Ond ni bu o hir barhad, yn ol fy meddwl, ond gan imi braidd golli arnaf fy hun, nis gallaf farnu yn gywir am ei barhad. Beth bynnag, aethum i'r drws; ond erbyn hynny yr oedd yr adsain bron a myned o'm clyw yng nghyfeiriad Llanfrothen. Ymhen ennyd daeth fy rhieni gartref. Yn y man, adroddais fy ngweledigaeth wrthynt. Ac ebe un ohonynt yn y fan, 'Wel, yn wir, fe ddaw y diwygiad i Nantmor.' Ac fe ddaeth, ac yr oedd yr hyn a glywais yn rhagarwydd o'i ddyfodiad. Trannoeth yr oedd ychydig gyfnewidiad yn y moddion, yr oedfa ganol dydd yn y pentref, ac yn y Tylyrni y nos. Cyrhaeddodd Edward Jones [Williams ydoedd: "ni wyddis ddim am dano heblaw mai pregethwr oedd," ebe Biographical Dictionary Joseph Evans] Llangwyryfon o Benrhyn yn lled hwyr. Daeth David Jones Beddgelert, hefyd, o Ysgoldy Llanfrothen. Dechreuodd ef yr oedfa. Adroddai wedyn ei bod yn dywyll fel y fagddu arno hyd ganol y weddi, pan y daeth torf o'r pentref at y tŷ dan ganu. Ar hyn torrodd y wawr ar y gweddiwr, ac yr oedd fel pe buasai'r nefoedd yn agoryd ac yn tywallt uwch ei ben. Cymerodd Edward Jones [?] ei destyn, "I agoryd eu llygaid, ac i'w troi o dywyllwch i oleuni." Yr oedd swn crac yn yr oedfa, ond heb dorri eto. Yr oedd llanc ieuanc, yn gwasanaethu yn agos, wedi gwahodd nifer o bobl ieuainc o Lanfrothen i'r oedfa gydag ef, er mwyn cael sport. Yr oedd y llanc hwn wedi symud ymlaen yn ystod y bregeth o'r pen arall i'r ystafell, nes bod yn ymyl y pregethwr, yn grynedig ac yn wylo. Ar hynny torrodd eraill i wylo, a rhai i waeddi allan. Tor- rodd rhai o'r hen chwiorydd i waeddi, 'Mawr allu Duw yw hwn!' Dyma ddechreu'r diwygiad yn Nantmor. Y Saboth nesaf yr oedd gan William Roberts Clynnog bregeth ar, 'Yr oedd gan ryw