wr ddau fab,' yn llawn o addysgiadau a chymhwysiadau effeithiol. Richard Williams Brynengan oedd yma y Saboth wedi hynny ar y geiriau, 'Trwy ffydd, Noe, wedi ei rybuddio gan Dduw am y pethau nis gwelsid eto, gyda pharchedig ofn a ddarparodd Arch i gadw ei dŷ.' Wrth sôn am y perygl o golli'r adeg i fyned i mewn i'r Arch, yr oedd y llewyrch yn dod, a Richard yn dechre ymwyro ar dde ac aswy, ac weithiau ymlaen ac weithiau yn ol, gan gau ei lygaid a gwneud cuchiau, fel pe buasai mewn gwewyr i esgor ar fynydd. O'r diwedd, fe waeddodd gyda nerth, 'Mi ddoi dithau i ymofyn am Arch toc! Ond cofia y bydd hi'n rhy ddiweddar pan y daw hi i ddechre bwrw a'r ceunentydd i ddechre llifo.' Ar hyn rhoes gwr oedd yn gwrando yn agos i'r tân floedd fawr,— Be' ydi hyn, bobol? be' ydi hyn, bobol?' a rhoes naid neu ddwy nes oedd yn y pen arall i'r tŷ. A rhoes floedd drachefn, Oho! mi gwelaf o rwan'; yna fe droes yn ei ol i'r fan lle safai o'r blaen, a dechreuodd weddio fel y medrai. Erbyn hyn yr oedd wedi myned yn gynnwrf drwy'r tŷ, rhai yn wylo, rhai yn gweiddi, eraill yn gweddïo. Parhaodd y gwaeddi ysbaid maith, ac yr oedd yno amryw wedi eu dwysbigo. Bu'r oedfa hon yn rhyw oedfa o aredig anghyffredin o ddwfn ar yr ardal. [Y mae Mr. David Pritchard yn adrodd Robert Anwyl yn rhoi hanes ei argyhoeddiad, ar ol ŵyr iddo. Yn ol yr adroddiad hwnnw yr oedd yr oedfa yn y Clogwyn. Eithr fe sicrha Carneddog na bu pregethu yn y Clogwyn o gwbl, ac mai yn y Tylyrni y rhowd pregeth Arch Noah. "Mewn pregeth yn y Clogwyn y cefais i'r proc, nad anghofiaf fyth mohono. Lladdodd hwnnw fi, os darfu dim erioed fy lladd i. Byddwn yn mynd efo'r bobl ar draws ac ar hyd i'r moddion cyn hynny, ond yr oeddwn mor ddiddeall ac mor galed a'r anifail, hyd yr adeg honno yn y Clogwyn. Yr hen Richard Williams Brynengan oedd yno yn pregethu. Soniai am y mynediad i'r Arch, a'r drws yn cau ar Noah a'i deulu, ac wrth gau arnynt hwy yr oedd Duw yn cau pawb arall allan. "Ha, wrandawyr anghrediniol, dyma hi wedi dod i'r pen arnynt: y cynnyg olaf am byth wedi ei roddi iddynt, a hwythau wedi ei wrthod gyda gwawd. Ond yn awr, wele Dduw yn gwrthod,—a hwythau yn galw pan y mae wedi mynd yn rhy ddiweddar !" Wyddwn i ddim ble 'roeddwn i'n sefyll, gan ofn y cau allan. 'Roeddwn i bron methu cael fy ngwynt. Mi fum am rai dyddiau â dim gwawr o un man. Cyn pen hir, mi eis i'r Tylyrni i glywed rhyw ddyn hynod o Ddolyddelen (John Jones Talsarn wedi hynny), oedd yn dechre pregethu yr adeg
Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/145
Gwedd