Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/146

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

honno. 'Roedd hwnnw fel angel, os gwn i be' ydi angel. Dyna oedd ganddo fo, y gobaith da drwy ras, ac ni chlywais i ddim mo'r fath beth gan neb, na chynt na chwedyn."] Ymhen rhyw dair neu bedair wythnos yr oeddynt yn dechre dylifo i'r seiat. A Gwyl Fair bwriais innau fy nghoelbren yn eu plith, ac yr oeddwn yn cyflawni'r nifer o 140 mewn chwe mis. Erbyn dechreu'r haf yr oedd ugeiniau yn rhagor wedi dod i'r eglwysi, a pharhaodd rhai i ddod am ddwy neu dair blynedd. Dywedir ddarfod oddeutu 240 ynghorff y blynyddoedd hyn ymuno â'r eglwys yn y pentref. Ni bu cymaint a hynny ar unwaith yn yr eglwys. Erbyn hyn yr oedd y dychweledigion, lawer o honynt, wedi ymadael o gymdogaeth Sinai, a gwersyllu'n nes i Galfaria. Yr oedd y gweiddi wedi troi yn orfoledd. Yr haf yma bu oddeutu 60 ohonom yng Nghymanfa'r Bala. Yr oedd llawer o edrych arnom, ac o ymwthio o'n cwmpas, a chroeso fwy na mwy i'w gael yn y Bala, ac wrth fyned a dychwelyd. Bu lliaws ohonom yn myned i'r Bala am flynyddoedd, a gwleddoedd heb eu hail a gawsom lawer pryd. Hawdd oedd ennyn y tân yr adeg yma. Un diwmod yr oedd dau yn dyfod mewn trol o Wynant, a thorrodd yn orfoledd arnynt. Buont yn canu ac yn neidio yn y drol am amryw filltiroedd, a'r ddau anifail yn cerdded mor bwyllog o'r blaen a buchod Bethsemes gynt. [Mab a merch oeddynt, wedi dod bedair milltir o ffordd. Wedi dechre ymddiddan, torasant ymhen ennyd mewn gorfoledd. Cyfarfu John Jones â hwy, a dywed eu bod yn parhau mewn gorfoledd hyd nes cyrraedd y pentref. Dywed Mr. Henry Hughes mai Richard Williams Erw suran wedi hynny, oedd y gwr ieuanc, ac y daeth yn flaenor enwog yn Horeb, Prenteg, ac yn dad i Mr. Richard Williams Bod y gadle, blaenor yn Rhyd y clafdy, Lleyn. Sonia Robert Ellis am ferch ieuanc brydweddol neilltuol, a gymerai'r diwygiad yn ysgafn, pan yn y fuches yn godro yn torri allan i waeddi dros y nant dan argyhoeddiad meddwl. Dywed y troes hynny yn wir ddychweliad iddi, ac y cofir am ei sirioldeb yn gweini ar yr achos goreu. Dywed Mr. Henry Hughes mai Alice Gruffydd, merch y Bwlch ydoedd, a gwraig Hafod llan ar ol hynny, a nain o du ei mam i briod Plenydd.] Buwyd yn canu ac yn neidio'n ddidor mewn claddedigaeth, a'r offeiriad fel wedi dyrysu yn y swn. O barth y canu yn yr awyr. Ar ryw noswaith daeth côr ardderchog i Wynant, yn gyfagos i Hafod y llan, lle'r oedd y diwygiad wedi dechre. Dechreuasant tua 10 ddechreunos a pharhausant hyd ddau y bore. Adroddodd y gwr fu yn eu gwrando wrthyf, pan y clywodd hwynt yn dechre