iddo roi ei bwys ar y clawdd, a phan orffenasant iddo gychwyn adref, gan dybied iddo wrando arnynt tua chwarter awr; ond erbyn myned adref yr oedd yn dri ar y bore. Tybiai iddo golli arno'i hun gan bereidd-dra a nefoleidd-dra'r sain. Yr ydoedd yn wr nas gellir ameu ei eirwiredd. Fel yr oedd y diwygiad yn symud, yr oedd y canu yn gyffelyb: clywid ef oddeutu'r pentref, ac fel y crybwyllais yn Nantmor. [Dywed John Jones fod amryw dystion syml a geirwir i'r canu hwn, a'u clywsant amryw weithiau, a rhai ohonynt am oriau ynghyd]. Gallaswn adrodd llawer o barth y gweddïo. Yr oedd yn ddibaid, a phob amser ac ym mhob man, ac yn daer. Ei gysegroedd oedd beudai, corlannau, llwyni coed, ochr ffordd, ochr deisiau mawn, ceunentydd, glan afon, bol clawdd. Nid oes braidd lanerch nad oes colofn eneiniedig yn sefyll arni. Rhoes yr ymwelydd rhyfedd yma ysigfa i anuwioldeb y fath na chododd ef byth ei ben i'r fath raddau. Aeth yr arferion y soniwyd am danynt i lawr, fel nad oes gan y rhan fwyaf bellach gymaint a chof am danynt. Y mae i'w adrodd hefyd yr elai pobl yr ardaloedd i gynnal cyfarfodydd gweddi mewn gwahanol leoedd, pobl Gwynant i flaenau Llanberis, y pentref i'r Pennant, a Nantmor i Lanfrothen, a bu hynny yn foddion i gychwyn achos yn y lleoedd hynny. [Gwnel John Jones y sylwadau yma: "Fe barhaodd yr adfywiad o dair i bedair blynedd yn neilltuol o rymus a siriol. Yn raddol fe laesodd yr awelon. Parodd hynny i lawer ymofyn yn fwy diwyd am gyfaill a lŷn yn well na brawd. Dychwelodd rhai fel Orpah at eu duwiau eu hunain, ond nid llawer hyd yma. Bu farw rai genethod ieuainc heb ymadael â'r cariad cyntaf. Amryw o'r hen gyfeillion a ymadawodd â'r byd â'r haul yn llewyrchu yn eglur arnynt, yr hyn oedd yn llawer o rym a chalondid i'r cyfeillion ieuainc a hen a adawsant ar eu hol. Ond nid wyf yn gallu dangos ond ychydig mewn cymhariaeth o'r peth fel yr ymddanghosodd yn ei rymusterau y pryd hwnnw. Mae'n dda gennyf allu dweyd fod golwg siriol ar y gwaith hyd yma, ac arwyddion fod yr Arglwydd yn ei ddwyn ymlaen, ac yn parhau i roddi llewyrch ei wyneb."]
"Gwelwyd angen am leoedd mwy cyfleus i addoli. [Edrycher hanes Bethania, Rhyd-ddu a Pheniel]. Erbyn i'r heidiau hyn godi o'r hen gwch yr oedd eglwys y pentref wedi ei hysbeilio yn dost, wedi dod i lawr yn agos gant o nifer. [Helaethwyd ac adgyweiriwyd capel y pentref yn 1826. Buwyd 27 mlynedd yn talu'r ddyled. Casglwyd £50 yn 1853 i'w llwyr ddileu. Bu'r adgyweiriad diweddaf