Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/148

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

arno yn 1858, a'r draul ar y capel a'r tri thŷ dros £1100. Cafwyd prydles y pryd hwn ar y capel, a chwaneg o dir er helaethu'r capel, a chafwyd y tŷ yn eiddo'r capel, y cwbl am ardreth o £1 i'r tirfeddiannydd. (Cofnodion y Cyfarfod Misol am Mai 10, 1858). Y ddyled yn 1859, £800. Erbyn 1860, £850. Yr oedd lle i 400 ynddo, a gosodid 330. Cliriwyd y ddyled erbyn 1881. Yn niwedd mis Hydref y cafwyd Jiwbili gollyngdod, pryd y pregethwyd ynglyn â'r amgylchiad gan y Parchn. W. Elias Williams Penygroes, Hugh Jones Nerpwl a Joseph Thomas Carno. Yr oeddid wedi cael prydles arno yn 1857 gan Syr R. Bulkeley am 99 mlynedd, ar ardreth o £1 yn y flwyddyn, ar yr amod 'ei fod i'w ddefnyddio fel lle addoliad a dim arall.' Awst 5, 1893, mewn arwerthiant ar y stât, prynnwyd ef am £40. Yn 1898 adeiladwyd tŷ gweinidog am £600. Yn niwedd 1900 yr oedd yr adeiladau yn rhydd oddiwrth ddyled].

"Ymadawodd y blaenoriaid, William Williams a Rhys Williams, i Fethania yn 1825 [1822], ar sefydliad yr eglwys yno. Ond yr oedd yn dymor hapus ar yr achos, yn gymaint a bod John Jones wedi ennill y safle o fod yn drefnydd cyhoeddiadau y pregethwyr teithiol. Cawsom hufen doniau de a gogledd am oddeutu 30 mlynedd. Bu Beddgelert cyn y diwygiad am 10 mlynedd heb un gwr dieithr o'r de yma yn pregethu. Hefyd, yr oedd bod gyn lleied o waith disgyblu a thorri allan yn peri dedwyddwch i'r eglwys. Oddeutu 1833-4 yr oedd dieithriaid yn dechre casglu yma i'r gweithydd, a meddwdod yn codi ei ben. Ond daeth dirwest allan yn 1836, a rhoes iddo ergyd farwol braidd, am y pryd.

Ymhen tua chwe blynedd ar ol y diwygiad dirwestol cafwyd diwygiad arall. Chwanegwyd tua 50 at yr eglwys ar y pryd. Trodd y dychweledigion allan yn dda yn ddieithriad, am a wn. Rhoes y diwygiad yma gyfnerthiad mawr i'r eglwys yn y pentref. Daeth y nifer yn ol i 160.

"Tua phum neu chwe blynedd yn ol cawsom y trydydd diwygiad. [Y rhan yma yn cael ei sgrifennu tua 1864-5. Eir heibio i ddiwygiad 1832. Tebyg na theimlwyd dim amlwg iawn yma y pryd hwnnw. Dichon fod adnoddau teimlad a nwyd wedi eu dihysbyddu yn rhy lwyr yn y diwygiad blaenorol i ganiatau