Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/149

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hynny.] Chwanegodd hwn nifer yr eglwys i 200 neu ragor yn y pentref. [Rhif yr eglwys yn 1853, 100; yn 1856, 130; yn 1858, 140; yn 1860, 190; yn 1862, 200; yn 1866, 200]. Nid oedd yr yn o'r diwygiadau yr un fath. Yr oedd y gweithrediadau yn wahanol, a'r effeithiau yn wahanol i gryn raddau. [Nos Fawrth, Hydref 11, 1859, y daeth Dafydd Morgan i Feddgelert. Yr oedd yn yr ardal amaethwr anuwiol, a arferai lygadrythu yn hyf ar y pregethwyr yn y pulpud, ac a ymffrostiai yn y dafarn nad oedd yr un ohonynt wedi gallu dal ei drem. Pan sicrhawyd ef y cyfarfyddai â'i feistr yn y diwygiwr, chwarddai yn ddiystyrllyd. Fel arfer, yr oedd llygaid Dafydd Morgan yn cyniweirio drwy'r dorf, ac yn y man sefydlodd ei lygad ar eiddo'r gwatworwr. Craffai lliaws ar yr ornest. Yr oedd llygad y naill yn dynn yn llygad y llall. Disgynnodd lygad yr amaethwr, ond am eiliad yn unig, a chododd ef drachefn. Ond methu ganddo ymwroli eilwaith. Crynnodd ymhob gewyn, troes yn welw, dodes ei dalcen ar astell y sêt, ac felly yr eisteddodd hyd ddiwedd yr oedfa. Y testyn, "Ymddatod oddiwrth rwymau dy wddf, ti gaethferch Seion." Arhosodd amryw i barhau. Yr oedd Dafydd Morgan yma eto nos Sadwrn, Tachwedd 12, wedi bod ym Methania y prynhawn. Arhosodd amryw eto, un bachgen yn ei ddiod y profwyd yn ddilynol iddo gael gwir argyhoeddiad. (Cofiant Dafydd Morgan t. 459—64). Dywed Mr. Pyrs Roberts y bu llawer o ddychweledigion '59 farw â'u coronau ar eu pennau.]

"Yr wyf o'r blaen wedi sylwi ar Henry Tomos a William Sion. Am William Williams Hafod rhisgl [y Ffridd cyn hynny], dyn canolig o daldra ydoedd, cadarn, a chryfach na'r cyffredin. Fel crefyddwr yr ydoedd yn drwyadl. O ran ei ddoniau a'i gyrhaeddiadau nid ydoedd ond bychan. Y goron fawr oedd arno ydoedd ffyddlondeb a charedigrwydd. Byddai'n barod bob amser i wneud a allai, a gallodd lawer, yn enwedig gyda rhannau allanol y gwaith; a byddai'n barod bob amser i roi bob help gyda'r ysbrydol. Fel y dywedodd un—

I'r rhai clwyfus archolledig
Dangosai Feddyg yn y fan.

Yn gymaint ag iddo ymuno â chrefydd yn 26 oed, ac iddo broffesu am 41 mlynedd, cafodd gyfleustra i wneud llawer o ddaioni pan oedd yr achos yn ei ddechreuad bychan. Rhys Williams oedd ddyn