Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/150

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cadarn o gorffolaeth, ychydig dalach na William Williams. Yr oedd yn nodedig fel llywodraethwr yn mhob cylch, yn y vestry, yn y teulu, yn yr eglwys. Pan yn diarddel, wedi i'r eglwys adrodd ei barn, Rhys Williams bob amser a fyddai raid selio'r dynged, ac un gair o'i enau fyddai'n ddigon. Yr oedd Rhys Williams yn gryn ddarllenwr, a thrwy hynny yn lled egwyddorol a chadarn yn yr athrawiaeth; ond yr oedd yn ddarostyngedig i ryw ddistawrwydd yn gyffredin. Yn y cyfarfodydd neilltuol anhawdd fyddai cael ganddo godi i ddweyd gair; ond pan godai byddem bob amser â'n pigau yn agored, oherwydd gwyddem y caem rywbeth gwerth ei ddal a'i gadw. Gofynais iddo unwaith pam yr oedd mor ddistaw? a dywedai yntau ddarfod iddo yn rhywfodd syrthio i'r dull hwnnw, ac i'r Ysbryd Glan, yn ol ei farn ef, gymeryd y pethau oddiarno yn gerydd arno, nes ei fod heb ddim i'w ddweyd. Ond er ei ddistawrwydd bu o wasanaeth mawr i'r achos yn ei holl rannau. Bu'n proffesu, ac yn swyddog, cyhyd, os nad hwy, na William Williams. Cyd-deithiodd y ddau lawer, ymhell ac agos, i gyfarfodydd misol, ar eu traul eu hunain am yr holl flynyddoedd a nodais. Bu Rhys Williams farw yn ystod rhyw lygeidyn siriol o ddiwygiad a dorrodd allan yng Ngwynant. Pan adroddodd ei fab iddo fod y diwygiad wedi torri allan, ebe fe,—' Yr awron, Arglwydd, y gollyngi dy was, ddeuda i, Wil.' A'i ollwng a gadd. [Edrycher Bethania.]

"Yr oedd yn Robert Roberts o'r Clogwyn, Nantmor, ragoriaethau na bu yn neb o'r blaenoriaid o'i flaen nac ar ei ol. Dygwyd ef i fyny yn fachgennyn, ar ol marw ei rieni, gyda chwaer iddo yn Llanberis. Dilynodd yr alwedigaeth o fwngloddiwr. Dyma'r pryd y tueddwyd ef at grefydd. Wrth fod Mr. Morgans, ei frawd ynghyfraith, yn berson, cafodd gyfle da yn ei lyfrgell ef i gasglu gwybodaeth. Ymbriododd â Jane Prichard, merch Richard Edmwnd, un o'r benywod duwiolaf a adnabum. Aeth i fyw i'r Clogwyn. Pan symudodd ef yma yr oedd ieuenctid yr ardal yn dra rhyfygus. Ond rhoddes yr Arglwydd ryw eneiniad anghyffredin ar Robert Roberts, nes yr aeth yn ofn i weithredwyr drwg. Efe a gychwynodd yr ysgol Sabothol yn yr ardal; a rhyfyg o'r mwyaf fuasai i neb arall anturio dwyn trefn ar y fath giwed. Ond yr oedd ei bresenoldeb ef yn ddigon. Pan glywai am rai wedi bod yn cynnal chwareuaeth ar y Saboth, elai atynt yn y fan, ac ni byddai raid iddo ond ymddangos na byddai pawb ar ffo. Ryw Saboth yr oedd lliaws o'r llanciau wedi ymgasglu i lanerch go ddirgelaidd