Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/151

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i arfer eu campau. Gwybu yntau am danynt, a thuag atynt yr aeth yn y fan. Yr oedd yn eu hymyl cyn iddynt ei ganfod, ond y foment y canfuwyd ef, dyna bawb yn cymeryd y sodlau, fel pe buasai lew o'r goedwig ar eu hol. Aeth rhai i feudy cyfagos, ac ymguddiasant dan y gwellt. Aeth yntau drwy'r beudy, gan bwnio â'i ffon a mwmial wrtho'i hun, 'Pa le y mae'r creaduriaid anuwiol sy'n torri gorchymyn Duw fel hyn.' Cyffyrddodd â rhai ohonynt heb gymeryd arno. Yr oedd y garfan arall wedi ffoi i goedwig gerllaw, a llechasant yno nes oedd efe'n ddigon pell. Nid wyf yn gwybod i rai mewn dim oed ymgasglu at ei gilydd ar ol y Saboth hwnnw. Dichon i blantos wneud hynny yn o ddirgelaidd. Ar Saboth arall yr oedd lliaws yn chware pêl ar bared y llan. Aeth gwr y gwesty o'r herwydd at un o'r blaenoriaid. Gwrthod gwrando ar hwnnw. Anfonodd gwr y gwesty gennad arall, yr hyn a barai iddynt hwythau chwerwi mwy. Ffrommodd gwr y gwesty, a dywedai wrthynt y byddai Robert y Clogwyn yn dod at yr oedfa un, ac y danfonai ef atynt. Pan gyfeiriodd Robert tuag atynt, yr oeddynt yn ffoi ymaith, rhai i bob cyfeiriad, cyn dynesu ohono atynt, fel na chafodd gymaint a'u cyfarch. Yr oedd neithior yn cael ei gynnal yn y gwesty un Saboth. Ond ebe un o'r cwmni, 'Lads, mi fydd yn dywydd arnom toc. Mi fydd Robert y Clogwyn yn dod heibio i'r bregeth, ac os gwel ni bydd yma yn y fan.' Tarawodd hyn y cwmni bron â llesmair. Dodwyd dau wyliedydd, un ym mhob ffenestr. Ymhen ennyd dyma Robert heibio. Syrthiodd pawb ar ei ddeulin a thalcen, ac nid oedd cymaint a rhwnc anadl i'w glywed. Ond wedi ei fyned heibio draw, ymuniawnodd pawb. Ofnid wedyn rhag dywedyd o rywun wrtho. Penderfynwyd nad oedd diogelwch gwell na myned i'r oedfa. Felly aethant oddieithr dau. Ni bu fawr drefn ar y neithior er i rai ddychwelyd yn ol i'r gwesty. Bu dylanwad Robert Roberts yn foddion i dynnu i lawr arferion oedd yn dal eu tir hyd hynny. Yr oedd nodwedd arall ynddo, sef rhywbeth a barai i bawb ei hoffi. Ni feiddiai y llanciau gwylltaf ddweyd gair gwael am dano. Yr oedd yn gristion ym mhob man ac ym mhob cylch. Casglodd lawer o wybodaeth drwy ddyfal ddarllen. Heblaw diwinyddiaeth, yr oedd ganddo ryw gymaint o wybodaeth mewn seryddiaeth a daearyddiaeth a physigwriaeth. Dyn lled fyr a gwargrwm ydoedd, a lled wael ei iechyd ers blynyddau. Arferai ddweyd mai ar golofnau yr oedd ei babell yn sefyll. Cwympodd yn 45 oed. [Ganwyd yn 1760, yn ol yr ysgrif o Beniel; a bu farw yn 1814, yn ol yr ysgrif oddiyma. Os yw'r