Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/152

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

naill a'r llall yn gywir, buasai'n 54 oed. Gallesid tybio fod 1814 yn debycach i gywir fel blwyddyn ei farwolaeth na naw mlynedd yn gynt. Yma y mae Carneddog yn dyfynnu o'r cofnodlyfr plwyfol: Robert Roberts Clogwyn, buried Decr. 22nd., 1814. Dywed hefyd mai 54 oedd ei oedran.] Gallesid meddwl ei fod wedi myned i orffwys ar ganol ei yrfa; eto yr oedd wedi gorffen ei brif waith, sef torri adwyau yn yr anialwch a gwneud ffordd i gerbyd Brenin Seion. Er marw, yr oedd ol ei draed ym mhob man lle cerddodd. Yr wyf yn cofio i bac o lanciau, ar ol ei farw, benderfynu ryw Saboth ail ddechre y chware. Awd yno, ond rywfodd ni ddeuai pethau fel y disgwyl. Yr oedd drain yn eu cydwybodau. O'r diwedd safasant, gan gyfaddef i'w gilydd fod rhyw achos nad elai y chware ymlaen. Penderfynwyd ei roi i fyny am byth, ac felly fu: ni chynygiwyd gyflawni y cyfryw beth yn yr ardal o hynny hyd heddyw. (Edrycher Peniel).

"Ni sylwaf yn rhagor ar y swyddogion, ond dywedaf ychydig am bedwar brawd, sef meibion Gruffydd Morris ac Elinor Edmwnd o'r Carneddi, Nantmor. [Bu Hywel Griffith yn aelod yn eglwys y pentref dros doreth ei oes, neu aelodau oedd y tri, Robert, Richard a Hywel ym Mheniel ar y cyntaf. Dodir y sylwadau arnynt yma, er mwyn i'r ysgrif fod yn gyfan gyda'i gilydd, oddigerth y rhannau ohoni yn yr Arweiniad.] Yr oedd y brodyr hyn yn hynod debyg i'w gilydd, yn un peth yn eu maintioli, bob un yn bum troedfedd a deng modfedd a hanner. Yr oeddynt, hefyd, yn eu gwynepryd yn hynod debyg, sef gwynepryd lled dywyll, fel yr adnabyddid y naill yn hawdd oddiwrth y llall. Hefyd yr oeddynt yn debyg i'w gilydd yn eu harferion: ni bu un ohonynt un amser yn cnoi nac yn llosgi ffwgws. Hefyd ni wyddis i'r un ohonynt drwy gydol ei oes fod yn feddw, er byw mewn oes yr oedd llawer o feddwi ynddi. Yn eu moesau, hefyd, yr oeddynt yn debyg: ni wyddis i lw na rheg syrthio dros eu genau ysbaid eu bywyd. Yr oeddynt yn tebygu mewn tymer, sef yn bwyllog ac araf; ond os cyffroid hwy yr oedd y pedwar yn lled wyllt, ond nid yn eithafol a ffôl felly, yr un ohonynt. Yr oeddynt yn tynnu at y naill y llall yn hyd eu hoes. A'r un modd am eu crefydd, ac yma sylwaf ar bob un ohonynt yn bersonol. Morris Gruffydd oedd yr hynaf. Yr oedd tuedd ynddo yn blentyn i ymwasgu at grefyddwyr. Bu am ychydig yn ddisgybl i Henry Tomos, ond wedi troi allan i wasanaethu'r byd fe gollodd ei gychwyniad. Ymhen ennyd rhoes heibio wasanaeth, a throes i gadw