Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/153

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ysgol. Meddai ar dalent neilltuol i dderbyn dysg a rhoi dysg. Y lleoedd yr ymsefydlodd gyda'r ysgol oedd Llanrug a Llanllechid. Y pryd y dechreuodd gyda'r ysgol, ymunodd â'r eglwys sefydledig, a glynodd wrthi hyd y diwedd, ond gwrandawai ar y Methodistiaid bob cyfle a gaffai. Bum yn ymddiddan âg e yn ei salwch olaf. Yr oedd yn hawdd deall iddo gael profiad helaeth o grefydd. Bu farw yn 82 mlwydd oed. Y nesaf ydyw Robert Gruffydd. Ymunodd yntau â chrefydd yn llanc ieuanc, ond daeth cwmwl drosto am ysbaid lled faith; ond yn y diwygiad mawr cafodd ymweliad drachefn, ac yr oedd braidd yn fwy hynod na neb yn yr ardal, a pharhaodd ei effeithiau i raddau tra bu, ysbaid deng mlynedd ar hugain. Bob amser ar ei liniau, ymdorrai ei ysbryd fel bomb-shell, a lluchiai dân i bob cyfeiriad. Ond daeth ei dymor yntau i fyny: bu farw ymhen y tair blynedd ar ol ei frawd, ac yn yr un oedran, sef 82. Yr oedd ei ddau frawd iau nag ef, sef Richard a Hywel gydag ef y noswaith y bu farw, ac wedi'r amgylchiad, ebe Hywel wrth Richard, 'Wel, Dic, rhaid i tithau ymorol am gael dy bac yn barod. Ti sydd i fynd nesaf: dyma Morris a Robin wedi mynd! Ac megys y dywedodd, felly y bu. Y nesaf, gan hynny, ydyw Richard, y trydydd brawd [sef tad Gruffydd Prisiart ei hun]. Ymunodd yntau â chrefydd pan yn llanc: ymwelodd yr Arglwydd âg e drwy glefyd trwm. Ac yn nyfnder ei salwch ryw ddiwrnod dechreuodd weddïo, a pharhaodd i weddïo tra bu'n sâl. Addawai pan wellhae yr ae yntau i Dy'n y coed i'r seiat. Ac felly fu: yr hyn a addunedodd yn ei gystudd, fe'i talodd. O hynny allan, ymroes i fywyd a llafur crefydd. Yr oedd yn dra hyddysg yn y Beibl, yn enwedig yr Hen Destament. Yr oedd fel oracl gan ei gyd-ardalwyr. Popeth mawr a phwysig, ato ef y deuid i'w benderfynu. Yr oedd yn gofiadur nodedig: adroddai bregeth yn lled gyflawn. Ond yn ei wythnosau a'i ddyddiau olaf yr oedd ei gof ryfeddaf. Dywedodd wrthyf ar un o'i ddyddiau olaf, fod pob pennill ac adnod y bu ei lygaid arnynt yn ystod ei fywyd yn dylifo i'w feddwl, ac nas gwyddai o ba le y deuent, a hynny nos a dydd, ac nas gallai adrodd y cysur a ddeilliai i'w feddwl oddiwrthynt. Pan wedi ei gaethiwo gartref gan henaint, cymhellodd y cyfeillion eu hunain arno i gynnal cyfarfod gweddi gydag ef. Atebodd yntau nad oedd waeth iddynt heb boeni, fod ganddo ef ddigon, y cymerai ef ei siawns ar yr hyn oedd ganddo. Ac yn ol pob tebyg, yr oedd ganddo ddigon. Bu farw, Ionawr 1855, yn 86 oed, wedi proffesu yn ddifwlch dros 60 mlynedd. Ei eiriau olaf a ddeallais