Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/154

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd: 'Mae'r Tad yn cadw; mae'r Mab yn cadw; mae'r Ysbryd Glan yn cadw; mae pawb yn cadw.' Yr olaf o'r brodyr yw Hywel. Ymunodd yntau â chrefydd yn fachgennyn lled ieuanc. Bu am ychydig yn ddisgybl i Henry Tomos, a dichon mai y pryd hwnnw y dechreuodd yr argraffiadau crefyddol ar ei feddwl. Ond beth bynnag am y pryd, ymaflodd mewn crefydd o ddifrif, a llafuriodd yn ol ei fanteision yn weddol dda. O ran ei ddawn, yr oedd ar ei ben ei hun, yn enwedig ei ddawn gweddi. Byddai ei weddiau fel pe buasent wedi eu hastudio. Yn gyffredin, pa beth bynnag yr ymaflai ynddo ar ddechreu'r weddi, hynny a ddilynai braidd nes gorffen. Os cyfiawnhad, neu sancteiddhad, neu berson yr Arglwydd Iesu, neu ynte yr angylion, neu pa bwnc bynnag a fyddai, dyna fyddai ganddo rhagllaw gydag ychydig eithriad am y tro. Yr oedd ei ddawn a'i ddull yn hynod briodol iddo ef, ond ni wasanaethai ineb arall. Yn gymaint a bod ei ddull y fath, ac oblegid yr eneiniad a fyddai yn gyffredin ar ei ysbryd, yr oedd pawb yn hoff o'i wrando. Gweddiai ar adegau neilltuol yn hynod ddorus, megys ar wylnosau, dyddiau diolchgarwch, dyddiau ympryd, neu amgylchiad arbennig arall. Er enghraifft, y dydd ympryd a gyhoeddodd y llywodraeth yn achos y rhyfel yn y Crimea. Nodwyd ef i ddiweddu un o'r cyfarfodydd, a dechreuodd yn ei ddull arferol, fel yma: 'Arglwydd mawr! dyma ni wedi ein galw at waith rhyfedd heddyw. Dyma ni wedi ein galw, nid yn unig i weddïo, ond i ymprydio hefyd. Ac yr ydym yn disgwyl y bydd llawer iawn o ffrwyth ar heddyw—y bydd llawer iawn o bethau yn cael eu gwneud. Yr ydym yn disgwyl y bydd llawer iawn o bladuriau a sychod yn cael eu gwneud heddyw; ac y bydd heddyw yn ddydd i roi terfyn ar y rhyfel gwaedlyd; ac y bydd yr arfau a ddefnyddir i ladd dynion yn cael eu troi i drin y ddaear, y cleddyf a'r canans mawr yna y byddant yn cael eu rhoi heibio am byth, os nad oes eu heisieu at y byd yma. Feallai fod y byd yma yn y fath sefyllfa ag y rhaid iti gymeryd y cleddyf ato, ac na wna un moddion arall mo'r tro. Os felly, cymer y cleddyf ato fo ynte! Er iddo ladd miloedd, lladded filoedd eto. Gwell i filoedd eto gael eu lladd ganddo, os hynny raid, ac os na wna moddion eraill y tro i ddiwygio'r byd. Y mae'r byd yma yn awr yn y fath gyflwr, fel na chaiff yr Efengyl mo'i ffordd—y mae tywysog llywodraeth yr awyr, llywodraethwr mawr y byd yma, ar ffordd yr Efengyl. Yr wyt wedi rhoi'r byd yma i'th Fab; ac y mae'n rhaid i'r Efengyl fyned dros y byd yma i gyd. Gan hynny, yn hytrach na bod rhwystr ar ffordd yr Efengyl, cymer y cleddyf