Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/155

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

at y byd: gwell iddo ladd miloedd eto, na bod yr holl genhedloedd yn myned i dragwyddoldeb yn amharod, yn filoedd ar filoedd, oesoedd ar ol oesoedd, yn ddidor.' Dyna fel y dechreuodd. Dyna'r fath oedd Hywel fel gweddiwr. Yn ei ddull ymddiddanol yr oedd yn lled gyffelyb. Byddai'n gosod pob peth bron allan drwy ryw ddrychfeddyliau dychmygol a phell, fel yr arswydid weithiau rhag iddo syrthio i gyfeiliornad, yn enwedig pan fyddai'n holi'r ysgol. Byddai'n hynod bob amser ar Berson yr Arglwydd Iesu. Yr oedd wedi darllen gwaith y Dr. Owen chwe gwaith drosodd [ar Berson Crist, y mae'n debyg]. Yr oedd wedi berwi cymaint o ran ei ysbryd yn ei waith ef, fel y byddai ymddiddan am y Gwrthrych Mawr yn hyfrydwch o'r mwyaf ganddo, a chan eraill wrth wrando arno. Gofynnodd gweinidog iddo unwaith yn nhŷ'r capel, beth oedd ei oedran. Yntau a atebodd mai 83. Yna dechreuodd ddisgrifio'r sefyllfa henafol: 'Yr wyf wedi mynd ymhell dros y terfyn. Yr wyf yn gweld fy hun mewn rhyw gwm pell ac anial ac anifyr. Ychydig o bobl sy'n preswylio yma. Nid oes yr un dyn na dynes ieuanc o'i fewn, nac ychwaith yn agos i'w gyffiniau. A'r ychydig sydd yma, yr ydym, rai ohonom, yn hanner deillion, eraill yn gwbl ddeillion, eraill yn gloffion, eraill heb fedru symud o'u lle, eraill yn hanner byddar, eraill yn gwbl fyddar, eraill yn sâl, eraill yn marw. Mewn gair, nid oes ond y methiantwch yngafael pawb. Ac o'r herwydd, nis gall y naill fod i'r llall o nemor gysur. Nid oes o'r braidd drwy'r holl fro ond gruddfanau i'w clywed o'r naill ben i'r flwyddyn i'r llall. Nid yw'n bosibl disgrifio'r henaint cyn mynd iddo, nac, yn wir, wedi mynd iddo. Wrth sylwi ar y peth ydwyf, yr wyf braidd yn anghredu imi fod y peth a fum, gan gymaint y cyfnewidiad!' Oherwydd ei ymddyddanion a'i dymer siriol, yr oedd pawb yn dra hoff o'i gymdeithas, y digrefydd fel y crefyddwr, ac, er y byddai ei ymadroddion yn lled ysmala weithiau, eto medrai gadw ar dir digon uchel fel na chollai ddim o'i gymeriad crefyddol un amser. Yr oedd cymhares ei fywyd fel yntau'n hen, ac at ei diwedd yn orweddiog. O'r herwydd byddai ef yn myned o'r neilltu i gysgu, yn ei misoedd olaf hi, er mwyn i'w merch gael lle i wasanaethu arni. Ryw fore, pan ddaeth efe i'w hystafell, dywedodd,-'Dyma lle rwyti heddyw eto, Nani! Yn enw dyn byw, mae rhyw aros, beth ofnadwy, ynoti, neu mi aet oddiyma i rywle bellach! Fore arall dywedai, Wyddosti beth oeddwn i'n wneud cyn dod i lawr yma, Nani ?' 'Na wn i.' 'Darllen Salm dy gladdedigaeth di.' Nid oedd