dywediadau o'r fath yn cael un argraff ddrwg ar Nani. Byddai'r ddau yn ymddiddan ynghylch marw mor ddigyffro ag y sonient am fyned i'r capel. O ddiffyg cwsg, yn ei amser diweddaf, byddai drwy gydol y nos yn adrodd penillion neu rannau o'r Beibl neu'n gweddio. Pan gaethiwyd ef i'w wely, ymwelodd brawd âg ef oedd yn flaenor ar y pryd. Dywedodd wrtho,—Wel, yr wyti yn flaenor, ac wedi derbyn llawer o gymhwyster i'r swydd—dawn da, llawer o wybodaeth,' a phethau eraill a enwyd. 'Wel, dyro nhw ar dân yn y capel yna. Llosga nhw yna; y mae nhw wedi mynd dydy nhw'n teimlo dim. Llosga nhw! neu mi ân i dân tragwyddol o ganol y seiat.' Un diwrnod aeth yn ymddiddan rhyngddo a chyfaill ynghylch y nefoedd—beth oedd ei natur, pa le'r oedd, a'r cyffelyb. Tynnodd yntau ei law o dan y dillad, a gosododd hi ar ei ddwyfron, a dywedodd, gan daro ei ddwyfron ddwywaith neu dair, "Dyma lle mai hi! Dyma lle mae hi! Wyddosti beth! pe bae i ryw gythraul fy llusgo i uffern, mi waeddwn, Bendigedig! nes byddai'r cythreuliaid yn chwalu fel gwybed o nghwmpas i!' Bu farw yn niwedd yr un flwyddyn a'i briod yn 85 oed, ac wedi proffesu yn ddifwlch am 70 mlynedd." [Dyma fel y canodd Dewi Arfon i'r ddau:
Gwel Ann a Hywel yma—yn y gro,
Blaenffrwyth gras Duw yma;
Er cof am fardd coeth, doeth, da,
Ei feddfaen fo y Wyddfa.]
Hyd yma y cyrraedd sylwadau Gruffydd Prisiart. Crybwyllwyd mai John Jones Glan Gwynant a ddewiswyd yn flaenor yn lle Robert Roberts, ac felly yn 1814 neu'n lled fuan wedi hynny. Ganwyd ef yn 1777; bu farw Chwefror 10, 1853, yn 76 mlwydd oed. Yn weydd wrth gelfyddyd, fe symudodd yn 15 oed o Drawsfynydd i Gelli yr ynn, yn y plwyf hwn. Gwaith ei wraig gyntaf, Catrin Williams, yn ymuno â'r eglwys yma, a brofwyd yn foddion ei ddychweliad yntau, er mai cyffroi ei elyniaeth a ddarfu'r amgylchiad hwnnw ar y cyntaf. Bu'n ysgrifennydd y Cyfarfod Misol am rai blynyddoedd, a phenodwyd ef yn drefnydd cyhoeddiadau y pregethwyr teithiol. Fel y gwelwyd, sonia Gruffydd Prisiart am y pentref yn mwynhau doniau de a gogledd am 30 mlynedd oblegid y trefniant yma. Bernir iddo fod yn y deheudir tua 30 gwaith ynglyn â'r achos yma. Nid hawdd y diangai pregethwr poblogaidd rhagddo. Diau iddo fod yn foddion drwy'r gwasanaeth yma i godi llawer ar Fethodistiaeth yn y wlad. Tebygir fod ganddo ddawn arbennig