i'w swydd. Er hynny, fe ddanghosai fymryn o bartïaeth i'w anwyl Feddgelert. Byddai pregethwr go neilltuol yn cael pregethu yma ar ei daith wrth fyned a dod. Digwyddodd hynny gyda William Morris Cilgerran, a hynny pryd yr oedd lleoedd pwysig yn gorfod myned hebddo o gwbl. Dywed Mr. Pierce Roberts fod yr argraff ar rai yma mai dyna pam y collodd yr ysgrifenyddiaeth, ond chwanega y dichon nad oedd hynny yn gywir. Tra theyrngarol i'r Cyfundeb ydoedd ymhob peth. Pan anogid codi ysgolion dyddiol, ymroes i gael ysgoldy, gan ddisgwyl rhodd oddiwrth y llywodraeth tuag at yr amcan. Bu peth anibendod gyda hynny. Yn y cyfamser, dyma Lord John Russell ar arhosiad yn y Royal Goat Hotel ym Meddgelert. Rhowd yr achos o'i flaen mewn llythyr gan yr athro. Yn ateb i'w alwad ef, aeth John Jones a'r athro ato i'r gwesty. Rhoes £5 iddynt yn rhodd at yr ysgol, ac aeth yno gyda hwy i holi'r plant. Wrth droi ohono ymaith, ymaflodd John Jones yn ei ysgwydd, ac a gyflwynodd iddo bâr o hosannau cochddu'r ddafad, gan ei sicrhau y cawsai hwy'n gynes iawn i'w draed. Dywedodd wrtho, hefyd, ei fod o'r un egwyddorion gwleidyddol ag yntau. Ymhen ysbaid fe ddaeth rhodd o £150 tuag at yr adeilad, ac achubwyd eu pen rhag profedigaeth. Bu'n overseer tlodion y plwyf am flynyddoedd. Dywed John Jones Tremadoc yn y Drysorfa fod ganddo reswm naturiol cryf, a phe buasai wedi cael addysg y buasai'n un anghyffredin. Dywed Mr. Pyrs Roberts mai efe oedd y trefniedydd ymhlith y blaenoriaid, a'i fod yn hyddysg iawn ym manylion y trefniadau a'r rheolau. Cofnodydd gwych ydoedd. Y mae ei lyfr cofrestr Bedyddiadau, perthynol i sir Gaernarvon, yn ddestluswaith. Cynwys tua saith mil o enwau, gan ddechre tuag 1808, a gorffen yn 1838. Ceidwadol ei ysbryd ydoedd, fel yr hen flaenoriaid yn gyffredin, ebe Mr. Pyrs Roberts. Rhydd enghraifft o'r cyfnod pan nad oedd oedfa brynhawn yn y pentref, ondly disgwylid i'r bobl fyned i'r bregeth, naill ai ym Mheniel neu Fethania. Codwyd awydd am wasanaeth yn y pentref, oblegid pellter y ffordd; ond gwrthwynebai yntau hynny hyd nes y trechwyd ef. Am ysbaid, wrth gyhoeddi'r moddion, chwanegai yn swta ar y diwedd y byddai cyfarfod gweddi yn y prynhawn i rai analluog i fyned i'r bregeth. Deuai pawb yn y man i'r cyfarfod gweddi. Ni ragorai mewn tynnu eraill i weithio ; ac yr oedd yn naturiol iddo wneud y gwaith ei hun, heb ystyried bob amser a allai fod rhywun arall a'i cyflawnai hwyrach cystal. John Jones oedd arolygwr yr ysgol, ac efe a drefnai ddechre a diwedd
Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/157
Gwedd