yr ysgol. Rhwng dechre a diwedd elai'n fynych i ymweled â'r hen saint oedd yn analluog i ddilyn y moddion. Crybwyllodd Gruffydd Prisiart am ei wasanaeth neilltuol efo'r canu. Dyma fel y rhydd John Jones Tremadoc hanes y terfyn: "Llesghau yn fawr yr oedd efe y blynyddoedd diweddaf o ran ei gorff, fel nad allai fyned allan ond i'r capel, yn yr hyn y parhaodd hyd o fewn pythefnos i'w farwolaeth. Efe a obeithiodd pan yn marw. Yn ei glefyd diweddaf, galwodd am ei fab, Robert, i ddarllen iddo'r rhan flaenaf o'r bumed bennod at y Rhufeiniaid, hyd y chweched adnod, ac a ddywedodd, 'Dyna sail fy ngobaith.' Claddwyd ef yn barchus ym mynwent Beddgelert gan dyrfa fawr o'i gyfeillion, ei frodyr a'i berthynasau, a phlant yr ysgol yn wylo ar ei ol. Yr oedd un ar ddeg o'i blant yn bresennol, a golwg bywiolaeth gysurus ar bob un o ran gwisg a gwedd." (Drysorfa, 1854, t. 62.) Mewn gwasanaeth cyhoeddus i'r Cyfundeb yn ei dymor yr oedd o flaen holl flaenoriaid y sir; ac mewn awdurdod yn y capel yr oedd o flaen holl flaenoriaid yr eglwys; ond ar amryw ystyriaethau pwysig eraill, yr oedd rhai eraill o flaenoriaid yr eglwys yn myned tuhwnt iddo. Y mae Carneddog yn rhoi ei doddaid beddargraff, o waith Ioan Madoc, ond cred nad ydyw ar ei fedd:
Gwel unig annedd John Jones Glan Gwynant,
Hen flaenor duwiol, o oesol lesiant;
Am waith ei Arglwydd mewn uchel lwyddiant
Bu'n hir ofalu, bu'n wr o foliant;
Fel enwog swyddog a sant-bu'n gweithio
Yn ddvfal erddo drwy ddyfal urddiant.
Daeth Dafydd Jones y pregethwr yma oddeutu 1810 o Rostryfan. (Edrycher Rhostryfan.) Symudodd oddiyma i Rydbach rywbryd yn rhan olaf ei oes. Dechreuodd bregethu yn 1809, a bu farw Ebrill 17, 1869, yn 94 oed. Analluogwyd ef i bregethu y 4 blynedd olaf. Dywed Mr. Pyrs Roberts ddarfod iddo gael crefydd pan yn gweithio ar y cob ym Mhorthmadoc. Rhaid fod hynny, os yw'r adroddiad yn gywir, pan oeddid yn dechre adennill y tir oddiar y môr yn 1808, ac yntau y pryd hwnnw yn 33 oed. Yn ol adroddiad arall, daeth at grefydd yn adeg adfywiad crefyddol yn y Waenfawr yn 1807. (Edrycher Waenfawr.) A dywed Mr. Pyrs Roberts ymhellach mai dyn cryf, ymladdgar ydoedd gynt. Edrydd Mr. D. Pritchard yr elai bob dydd o'r neilltu i weddïo am ddeng munud pan ar y morglawdd. Dywed y Parch. Hugh Roberts Bangor (Drysorja, 1870, t. 128) am dano, ei fod o gyfansoddiad