corfforol cadarn, ei lais yn uchel, ei ddawn parablu yn rhwydd, a chanddo feddiant cyflawn arno'i hun, gan lefaru fel un heb deimlo dim anhwylustod yn ei feddwl na gwendid yn ei gorff. Ni ddeallai Saesneg; nid oedd ganddo wybodaeth helaeth; treuliodd ei amser ynghanol trafferthion bywiolaeth. Eithr fe ddarllenai lawer ar Eiriadur Charles, Esboniad James Hughes a llyfr Gurnall. Yr oedd yn bregethwr cymeradwy, yn ddyn addfwyn a duwiol, yn Fethodist trwyadl. Yn wrandawr da, teimladol, ar eraill. Yn fwy o weddiwr na phregethwr. Yn wresog ac effeithiol yn y seiat. Bu'n fynych ar daith pregethu gydag eraill. Ni ordeiniwyd mono, ac ni ddeallodd Hugh Roberts i hynny fod yn un brofedigaeth iddo. Nid yw disgrifiad William Davies y mwnwr o draddodiad Dafydd Jones, a adroddir gan Carneddog, yn ymddangos yn gwbl gytun â'r eiddo Hugh Roberts. Sonir gan William Davies am ei lais mawr, crynedig, a dywed ei fod wrth bregethu yn rhyw ymdagu, ac yn ymddangos fel pe bae rhyw rwystr yn ei enau yn peri i'r ymadrodd ddod allan, nid yn ystwythlyfn, ond megys bob yn rhan. Ond dywed ei fod yn hollol fel arall yn y seiat, y llais yn glir a pheraidd, cystal a'i fod o ymddanghosiad tywysogaidd, a'i gynghorion yn ddoeth a'i brofiadau yn felus. Dichon y byddai Dafydd Jones. wrth bregethu, fel eraill, weithiau yn rhyw ymdagu, ac weithiau yn ymdorri ar draws y rhwystrau, canys fe ddywed Mr. D. Pritchard y bloeddiai yn uchel gyda'i lais mawr pan gaffai hwyl. Adroddir am dano yn y Llenor (1895, Gorffennaf, t. 56) yn pregethu yn Aberglaslyn yn adeg diwygiad 1818, oddiar y geiriau, "Oni ddychwel yr anuwiol, efe a hoga ei gleddyf," pryd yr argyhoeddwyd gwr ieuanc cellweirus o ardal Nantmor wrth ei wrando. Dywedir ddarfod i'r bachgen hwnnw fyned drwy bangfeydd argyhoeddiad, ond troes allan yn flaenor ac athro ffyddlon. Y mae ysgrif gan John Jones Glan Gwynant yn y Drysorfa (1831, t. 203) ar fachgen i Ddafydd Jones a fu farw Rhagfyr 2, 1830, yn 6 oed, yn awgrymu fod bywyd teuluaidd Dafydd Jones yn gyson a hardd. Yn ddilynol i John Jones y codwyd yn flaenoriaid, Richard Roberts Caergors a Dafydd Roberts y Ffridd. Symudodd Dafydd Roberts i'r America. Ar ol adeiladu capel Rhyd-ddu yn 1825, fe symudodd Richard Roberts yno. (Edrycher Rhyd-ddu). Dywed Mr. D. Pritchard mai mab Bryn hafod, Clynnog, oedd efe. Er ei fod o duedd foesol o'i febyd, nid ymgymerodd â phroffes gyhoeddus hyd ar ol priodi. John Roberts, ei dad ynghyfraith, oedd stiwart
Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/159
Gwedd