y Barwn Hill, a cheid yng Nghaer'gors ganu'r delyn a'r crwth, ac yfed cwrw a gloddesta. Bwriadwyd i'r pethau hynny fod yn eu rhwysg yn y briodas, ond ataliwyd hynny gan y priodfab, a bu llai eu rhwysg yng Nghae'rgors yn ol hynny. Yn araf, fel y dywed Mr. Pritchard, y gweithiai argyhoeddiad yn ei feddwl. Ac ni bu'n hir wedi ymuno â'r eglwys, na wnawd ef yn flaenor. Gan fod Richard Roberts yn ysgrifennydd yr ysgol, pryd yr oedd John Jones yn arolygwr, a John Jones yn myned allan i ymweled, byddai'r pwys a'r gofal ynglyn â'r ysgol yn disgyn arno ef. Dywed Mr. Pyrs Roberts ei fod yn gadarn yn yr ysgrythyrau, ac yn ddyn ysbrydol iawn. A dywed, wrth ei gymharu â John Jones, mail Richard Roberts oedd y diwinydd a'r athrawiaethwr, a'i fod yn fwy galluog ei feddwl ac yn fwy hyawdl, ac yn fwy medrus i gael eraill i weithio. A sylwa, hefyd, mai pa faint bynnag oedd ei ragoriaeth fel athro, fel holwr, ac fel siaradwr, ei fod yn fwy fyth fel gweddiwr. Dywed, yn wir, mai efe oedd y gweddiwr hynotaf a glywodd efe erioed. Tawel, toddedig yn ei ddull: nis gellid gwrando arno heb ollwng dagrau. Melancolaidd ydoedd o ran tymer. Pan yn ddyn cymharol ieuanc bu am daith drwy Leyn ac Eifionnydd gyda William Prytherch, tad y gwr a adwaenir felly yn awr, a'i swydd ydoedd dechreu'r oedfa iddo. Bu William Prytherch yn adrodd am dano wrth Mr. Pyrs Roberts ymhen blynyddoedd. "Sut y mae poor Richard?" fe ofynnai. A dywedai y byddai ef yn ddigon amharod ei ysbryd aml waith i godi i fyny i bregethu, ond y byddai Richard wedi ei godi ef i ysbryd pregethu cyn bod ohono wedi myned drwy hanner ei weddi. Mewn un lle yr oedd gwr mawr o gorff, a mawr ei awdurdod yn y lle, ac o gryn safle fydol. A phan welodd hwnnw'r ddau yn dod, fe ofynnodd, "Pwy ydi'r hogyn yma sy gyda thi, William ?" Dodes ei ofn ar Richard. Llithrodd Richard allan o'r tŷ capel bum munud cyn amser dechre. Dychwelodd yn ol ychydig funudau wedi'r amser, ac yr oedd y bobl yn canu pan awd i'r capel. Gweddïai Richard yn nodedig y tro hwnnw. Y blaenor mawr yn gwaeddi Amen yn uchel gyda'r weddi. "Pan ddowd allan," ebe Prytherch, "Richard oedd y cwbl ganddo: ni thalai neb ddim ond Richard." A dywedai Prytherch ei hun nad anghofiai efe ddim am ei weddi y tro hwnnw. Meddai ar ddylanwad ar yr ieuainc. Pan ddeuail drwy'r ardal ar Ddydd Diolchgarwch, a'r bechgyn yn chware bandi, wrth ei weled ef hwy beidient â'r chware, gan ddodi'r clwb o'r tu ol ar y cefn. Elai yntau heibio yn dawel gyda nod ar y
Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/160
Gwedd