ydoedd arwydd o aflwydd. Maint yr aflwydd ydoedd maint caledwch y tir y gwelid hi arno. Rhai pobl a chwiliai'r nos am arian mewn cilfachau tywyll, anhygyrch. Nain Dafydd Thomas a haerai ddarfod iddi weled y tylwyth teg. Bu hi a'i mam allan gyda'r nos ar un tro mewn gweirglodd ar lan afon, pryd y codai tarth allan o'r afon. Y tarth yn cilio ychydig. Er eu syndod, gwelai'r fam a'r ferch ddwsinau o feibion a merched bychain, bach yn dawnsio ar y weirglodd. Fel y chwalai'r tarth ymaith, graddol ymgollai'r bobl fach o'r golwg. Gwelodd aml un heb eu llaw hwy y cyffelyb. Byddai ofn y tylwyth teg yn rhwystro pobl hanner cant oed yn awr rhag myned yn blant i Greigiau padell y brain ar y Cefndu. Tebyg fod a wnelai'r brain a gyrchai yno rywbeth â'r traddodiad am y peisiau gleision. Yr oedd gweithdŷ John Hughes y crydd yn fan dihafal am straeon bwganod. Nid oedd mo fath Morgan Owen Penybont am eu hadrodd. Byddai Dafydd Thomas pan yn hogyn yno yn gwrando arno â'i lygaid a'i geg yn llawn agored. Gwelai Morgan Owen fwganod ym mhob rhith. Ffordd ddewisol ganddynt o ymddangos ydoedd gyda'r rhan uchaf ar ddull dyn, a'r rhan isaf ar ddull anifail, ceffyl neu afr neu'r cyffelyb. Rhyw gorr neu gilydd a welid ganddo bryd arall. Morgan yn myned adref ar un noswaith dywell iawn gyda'i lantern yn ei law. Pa beth a ddigwyddodd wrth gamu ohono dros ryw ffos ddwfr, ond corach bychan yn ymrithio wrth ei glun, a chan ddiffodd y lantern yn dianc ymaith drachefn.
Y mae Dafydd Thomas yn adrodd chwedl, ag y dywed fod pawb yn y Waen yn ei chredu "75 mlynedd yn ol" (1825), ac na wyddai ef ei hun ddim pa fodd i'w hanghredu. Yr oedd rhyw ddyhiryn wedi torri i mewn i'r Graig lwyd, a dwyn £25, arian a dderbyniwyd am anifeiliaid, ac a fwriedid i dalu'r ardreth. Mawr oedd pryder y teulu. Dywedwyd wrthynt y gallasai Arabella o Ddinbych fynegi pwy oedd y lleidr. Digwyddai fod teilwriaid yn pwytho ar y bwrdd yn y Graig lwyd un diwrnod. Ebe Rolant Dafydd, gwr y tŷ, wrth Guto'r teiliwr, "Guto, a ei di yno ?" Yn addo iddo bâr o esgidiau ddim gwaeth na newydd, os ae Profi'r esgidiau: ffitio i'r dim. Addo talu i Guto am ei amser a'i draul. Ymhen deugain mlynedd ar ol i'r helynt ddigwydd y clywodd Dafydd Thomas yr hanes gan Guto ei hun. Yr oedd gan y ddau achos i ymweled â Dinbych y pryd hwnnw. Wedi nodi'r amgylchiadau a adroddwyd eisoes, elai Griffith Morris ymlaen gyda'r