Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hanes: "Ar nos Iau y cefais i'r esgidiau gan Rolant Dafydd, a deg swllt at fy nhraul, gan gynnwys y goron oedd i'w thalu i Bella, sef ei gwobr arferol. Mi gychwynais cyn dydd fore Gwener. Bore braf yn y gwanwyn ydoedd. Mi gyrhaeddais Lanrwst dipyn cyn canol dydd, a chefais yno bryd da o fwyd. Mi gyrhaeddais Ddinbych yn gynnar, wedi cerdded dros 40 milltir. Daethum o hyd i Bella yn ei thŷ, a dechreuais ddweyd fy neges. 'O' meddai hi, mi wn dy neges di o'r gore. Wedi colli arian y mae rhywun? Eglurodd Griffith Morris yr amgylchiadau. "Wel," ebe Bella, "mi allaf ddweyd lle y maent. Oes yna ryw feudŷ dan y tŷ? ac a oes yna ryw garreg fawr yn y ddaear yn ei ymyl ?" "Y mae yno feudŷ, ond nis gwn am y garreg," ebe Griffith Morris. Yno y mae nhw," ebe Bella, "odditan y garreg, mewn twll, a'r gwas sydd wedi eu dwyn. 'Dydyn nhw ddim yno i gyd. Y mae o wedi gwario dwy bunt am ddeunydd dillad, ac y mae y rheiny yn cael eu gwneud gan deiliwr yng Nghaernarvon." Dychwelodd Griffith Morris drannoeth, ac yr oedd yng Nghaernarvon erbyn tri ar y gloch y prynhawn. Cyfarfu â Rolant Dafydd yn nhŷ Alice Griffith Pen y deitsh. Yr oedd mab ynghyfraith Rolant Dafydd gydag ef, ac wedi clywed yr adroddiad, ymaith âg ef o nerth y carnau i'r Graig lwyd, dros dair milltir a hanner o ffordd. Dychwelyd ymhen dwy awr, a'r gwas gydag ef, y cwbl wedi troi allan fel yr hysbyswyd gan Arabella. Yr oedd Griffith Morris yn gymydog agos i Ddafydd Thomas. Ni chlywodd efe mo neb erioed yn ameu ei eirwiredd, ac nid oedd ganddo yntau ei hunan unrhyw sail dros wneud hynny.

Yn ddiweddarach nag amseriad yr hanes olaf yma, yr oedd gwr cyfarwydd neu ddewin yn trigiannu yn y Waenfawr ei hun, sef Griffith Ellis Cil haul, fawr ei glod. Canys nid dewin yn unig oedd efe, ond meddyg anifail a dyn, a gwr heb ei fath am ddofi lloerigion. Nid oedd yn feddyg trwyddedig ar ddyn nac anifail; ond llwyddai ef yn fynych wedi methu gan wŷr trwyddedig. Bu lliaws o wallgofiaid dan ei ofal wedi methu gan bawb eraill a'u gwastrodedd. Nid ymddengys ei fod yn ddewin wrth reol a chelfyddyd, a llysieulyfr Culpepper, fe ddywedir, oedd ei lyfr codi cythreuliaid. Yr oedd cip o olwg ar luniau'r llysiau, bellter oddiwrthynt, yng nghynnwrf y meddyliau, yn gwasanaethu yn lle lluniau cythreuliaid. Eithr y mae pob lle i gredu fod greddf y dewin yn eiddo Griffith Ellis. Y mae'n sicr fod rhai aelodau o'r