Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/164

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sefyll ac yntau'n eistedd. Ond fel y gwasgai'r holwr yn drymach drymach ar y dosbarth, y mae Gruffydd Prisiart o'r diwedd yn codi'n sydyn, ac yn rhoi rhes o atebion gwahanol i'r cwestiwn, 'Ond,' meddai, 'y mae'n gwestiwn tywyll iawn, onid ydyw, John?' 'Yr oeddem ni yn gwybod hynny,' meddai'r holwr, heb i chwi ddweyd. Dod yma i geisio cael goleu arno yr oeddem ni heno.' Edrydd Mr. Pyrs Roberts am dano'i hun yn dod i'r seiat. Troes Gruffydd Prisiart ato, "Rwyti wedi cael pob manteision, wedi bod yn gyson ym mhob moddion. A wyti wedi darllen dipyn? a meddwl dipyn? A wyti wedi dechre cadw dyledswydd gartref?" Yn ateb i'r cwestiwn olaf, dywedai'r bachgen, "Nag ydw'i." "Wel, dyn a dy helpio di! Wn i ddim be' wnei di! Mi ddylaset fod wedi dechre y bore nesaf ar ol dy dderbyn [sef ar brawf]." Ar hynny dyna Robert Morris yn codi ac yn cymeryd ei ran, gan ddweyd nad oedd y tad ond yn darllen ar y ddyledswydd, a bod yn anhawdd i Byrs weddio, pan nad oedd y tad ond yn darllen; a chynghorai Pyrs i ddarllen a gweddïo pan fyddai ei dad oddi-cartref, a phan glywai ei dad y gofalai am y ddyledswydd yn gyflawn o hynny ymlaen. Dywed Mr. Tecwyn Parry mai Gruffydd Prisiart a fu'n foddion i ddeffro ei awen ef, os bu ganddo'r fath beth, chwedl yntau. Dywed, hefyd, ei fod yn feirniad craff mewn barddoniaeth, ac yn hynafiaethydd gwych. Dyma sylwadau Glaslyn arno: "Y mae'r amser y bum yn cydymdaith â Gruffydd Prisiart erbyn hyn yn ymddangos i mi fel mordaith dros y cefnfor, heb yr un garreg filltir yn y golwg. Wrth alw i'm cof un o broffwydi sanctaidd y diwygiad mawr, yr wyf yn teimlo fy mod yn gosod fy hun mewn sefyllfa gyffelyb i'r brenin Saul gyda'r ddewines o Endor, yn galw y proffwyd o'i fedd i'm ceryddu. Tua'r flwyddyn 1856 y daethum i gydnabyddiaeth âg ef, a bum mewn cyfeillgarwch agos a serchog âg ef hyd ddiwedd ei oes. Gwr cadarn ac esgyrnog oedd efe, ac ar yr olwg gyntaf braidd yn torri ar y garw; braidd yn wyllt o ran ei dymer, er hynny yn dawel, ond tawelwch y mynydd tanllyd oedd, a gwell oedd peidio â'i gyffroi, a phe tarewsid ef ar y rudd ddehau, ni fuasai fyth yn troi'r llall cyn rhoi dymnod yn ol. Tua'r flwyddyu 1846 daeth mintai o ddynion cryfion of swydd Fflint i dorri parc o goed i Ddolfriog; a'r noswaith cyn iddynt ymadael o'r ardal, cytunasant â'i gilydd i ymosod ar bobl y pentref a'u baeddu. Yfasant yn drwm, a dechreuasant faeddu a churo pawb a ddeuent allan o'u tai. Yr oedd seiat yn yr hen gapel ar y pryd, a phan oedd y frawdoliaeth yn dychwelyd o'r