Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/165

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

capel, ymosodwyd arnynt yn fileinig ar y ffordd, a diangodd y rhai gwanaf am eu bywyd. Yn y rhuthrgyrch tarawyd Gruffydd Prisiart gan un ohonynt; ond cafodd ddyrnod yn ol nes yr ydoedd yn llyfu'r llwch. Gorchfygwyd y gelynion, a Gruffydd Prisiart oedd yr unig un o'r frawdoliaeth a gymerodd ran yn yr ymladdfa; ac er ei fod yn flaenor gwnaeth yn llygad ei le. Fel blaenor dylid ei restru yn y rhenc flaenaf. A chofier mai nid peth hawdd oedd rhagori ymhlith blaenoriaid y Methodistiaid yn ei oes ef, er fod yn bur hawdd gwneud hynny'n awr. Yr oedd eangder ei wybodaeth, rhyddfrydigrwydd ei farn, a dyfnder ei brofiad yn ei gymhwyso i fod yn arweinydd crefyddol mewn unrhyw gylch. Yr oedd mwy o'r cristion na'r swyddog yn ymddangos ynddo bob amser, a'r swydd yn ymguddio yn y gwaith. Er ei fod yn Fethodist ffyddlon, nid yn fynych yr elai i'r Cyfarfod Misol, ac nid wyf yn gwybod iddo gymeryd rhan arbennig yn y cylch hwnnw. Yr oedd yn barchus o'r weinidogaeth, ac yn gweddïo llawer dros bregethwyr; ond pan ddigwyddai Saboth gwag ni byddai arno ddim brys i'w lenwi, gan ei fod yn awyddus i ddwyn allan ddoniau'r eglwys. Byddai wrth ei fodd mewn cyfarfod gweddi, ac yr oedd yn weddïwr mawr ei hun. Ac yn y seiat, arferai gymell yr ieuenctid i ddiwyllio ac ymarfer dawn gweddi. Ac y mae'r ychydig sy'n cofio y to o weddïwyr anghymharol oedd ym Meddgelert yn ei amser ef yn sicr o fod yn teimlo fel fy hunan fod rhywbeth wedi ei golli o'r cyfarfodydd hyn yn y dyddiau hyn. Efe fyddai'n arwain y seiat, ac yr oedd yn fedrus yn y gwaith o dynnu allan brofiadau heb grwydro hyd y capel i chwilio am danynt. Yr oedd ynddo ryw ffwdan hapus oedd yn gwneud hyd yn oed ei gamgymeriadau yn dderbyniol. Mewn disgyblaeth byddai'n onest, ac eto'n dyner, ac ni tharawai byth ar lawr. Mewn achos o gweryl yn yr eglwys, meddiannai ei hun yn rhyfedd ac ystyried tanbeidrwydd ei natur; ond os elai un o'r pleidiau i eithafion cynhyrfai beth, ac ar achosion felly gwelais fflam yn ennyn yn ei lygad oedd yn ddigon i roi coedwig ar dan. Yr oedd yn nodedig am ei ymdrechion gyda'r bobl ieuainc, a chadwodd i fyny gyfarfodydd darllen er diwyllio eu meddyliau ac ennyn meddylgarwch ynddynt. Yr oeddynt hwythau yn hoff ohono ef, er y cafodd ambell un go ddireidus deimlo clawr y llyfr yn llosgi ar ei glust. Yr oedd gyda'i dymer nervous a'i ysbryd eofn yn gallu dylanwadu yn ffafriol ar y bobl ieuainc, y galluogid ef trwyddynt i luosogi ei bersonoliaeth mewn modd rhyfedd yn eu mysg. Yr oedd Gruffydd Prisiart, yn gystal a'i