Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/167

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac nid oedd yn ddarllennwr mawr; ond yr oedd ganddo ddawn neilltuol i ddeall gair Duw, ac i'w gymhwyso at eraill. Ac yr oedd yn hynod deyrngarol i Fethodistiaeth, ac yn cario'r Cyfundeb yn ei fynwes." El Carneddog ymlaen: "Dywed henafgwr wrthyf ei fod yn weddiwr eneiniedig. Nid oedd mor alluog a'i frawd, Rhys Jones, ond medrai siarad yn dda ar faterion yn y Cyfarfodydd Ysgolion. Yr oedd yn wr hollol ddiwenwyn, a cherid ef gan bawb. Bu farw Mawrth 19, 1881, yn 68 oed, yn flaenor ers 38 mlynedd."

Efe oedd ein hathraw a'n doeth gyfarwyddwr,
Cysurai'r trallodus, cyfnerthai y gwan.—(Carneddog.)

Yr oedd John Roberts, "yr hen siopwr," yn ddyn urddasol o ran ymddanghosiad ac awdurdodol ei wedd. Meddai ar ddylanwad neilltuol yn yr ardal mewn byd ac eglwys. Gwnaeth waith pwysig ynglyn âg addysg. I'w ymdrechion ef yn arbennig y gellir priodoli cychwyniad yr ysgol Frutanaidd. Ymladdodd yn ddewr dros ei chael yma, ac hefyd dros gael mynwent rydd, yn gyfochrol â hen fynwent yr eglwys. Bu'n dŵr o nerth i'r achos crefyddol yn y lle am flynyddoedd lawer. Yr oedd ei air yn ddeddf. Ac yr oedd, yr un pryd, yn rhyfeddol o lwyddiannus i gael eraill i weithio gyda'r achos. Heblaw bod yn filwr ei hun, yr oedd hefyd yn gadfridog: heblaw ymladd, medrai yr un pryd drefnu'r fyddin i ymladd. Gallai ddweyd wrth un, Cerdda, ac efe a ae; wrth arall, Gwna hyn, ac efe a'i gwnae. Ymddeffroai, ac ymaflai mewn gorchwyl yn y fan. Wedi i'r Cyfarfod Misol unwaith wrthod rhoi caniatad i godi capel newydd, am fod dyled yn aros ar yr hen, a chlywed ohono yntau yr wrthddadl gan y brodyr fu yno, ymroes yn y fan i glirio'r ddyled, yr hyn a wnawd yn union. Nid oedd hyn ond enghraifft o'i ddull cyffredin. Disgrifiad Mr. Pyrs Roberts ohono a gafwyd hyd yn hyn. Dyn tal ydoedd a chwimwth, cadarn, heb fod yn gnodiog. Yr oedd golwg hoew, effro, hunanfeddiannol arno. Ynghanol y tŷ capelaid llawn a fyddai ym Meddgelert, yn enwedig ar ol oedfa'r nos, oddeutu 35 mlynedd yn ol,—ac eisteddiad gref fyddai honno cystal a llawn,—yr oedd ef fel brenin mewn llu. Yr oedd gan amryw yno rywbeth neu gilydd heb fod ganddo ef i'r un graddau, ond byddai pawb yno megys yn canolbwyntio ynddo ef. Cawsai bob un eithaf chware teg i draethu ei feddwl. A gwelid ar ei wyneb argraff o werthfawrogiad o bob un, ac o gyfran pob un. Byddai'r gyfeillach honno, y blynyddoedd hynny, bob amser, debygid, o duedd adeiladol