heb sôn am fod yn ddifyr. Codai pwnc i sylw weithiau, ond yn fynychach, feallai, atgofion o hen bregethwyr,—o'u pregethau ac o'u nodweddion. Os byddai eisieu cael y testyn, ac yntau wedi ei glywed rywbryd, fe'i ceid yn y fan gan wr y tŷ capel, John William, a dyna fymryn o nod arwyddocaol ar wyneb John Roberts. Gyda phwnc, craffai ef ar yr hyn ddywedid gan bob un, a symiai y cwbl i fyny yn amlwg yn ei feddwl ei hun, ond heb ymyryd ei hun yn y ddadl, oddigerth ar dro, neu mewn geiriau go gwta. Hwyrach y ceid sylw o eiddo Thomas John; neu fe elai Pyrs Roberts dros ddisgrifiad neu ymresymiad gan John Jones Talsam, gan roi syniad inni wrth fyned heibio am hwyl y bregeth; neu fe geid cyfeiriad at oedfa fawr Dr. Edwards yn sasiwn Bangor, ar "Ein Tad," oedfa fwy "o'i hysgwyddai i fyny" nag a glywodd y llefarwr gan neb arall, a rhoddid syniad am gynnwys y bregeth, ynghyda'r pennau —(1) Tad uwchlaw deddf natur; (2) Tad uwchlaw'r ddeddf foesol. Byddai pawb yn gwbl rydd, ond byddai pawb yn rhyw fodd aneffiniadwy fel yn golygu presenoldeb John Roberts ym mhob sylw. Ar ryw fore eithafol o oer, a chnwd o eira ar y ddaear, dyma John Roberts ei hun, wrth alw yn y tŷ capel, yn adrodd sylw o eiddo Henry Rees, am yr adyn truan, tlawd, heb ddim ar wyneb daear i droi ato, y ddaear yn orchuddiedig gan rew ac eira, ac yntau heb ond ei grys am dano yn y gwyntoedd creulon,—gyda'i ddannedd yn crynu yn ei gilydd, yn troi i wneud ei apel at Dduw. Rhoes fymryn o ysgydwad i'w ben ar ol adrodd y sylw, a'i lygaid yn myned yn llymach eu hedrychiad, gan arwyddo gwerthfawrogiad o ystyr y sylw. Pan aeth Gladstone drwy'r ardal ynglyn âg agoriad y ffordd haearn ar y Wyddfa, penodwyd John Roberts gan y trigolion i wneud rhyw anrheg drostynt. Wrth wneud ychydig sylwadau ar yr achlysur, dywedodd wrth y gwladweinydd ei fod o'r un oedran ag yntau i'r flwyddyn. Gwenodd Gladstone ar hynny, a dywedai yn ol, "Yr ydych yn dal eich oedran yn well na mi." A thebyg fod hynny yn gywir, er cadarned cyfansoddiad yr arwr hwnnw. Fel hyn y rhed cofnod y Cyfarfod Misol: "Yr oedd yn un o flaenoriaid hynaf y Cyfarfod Misol, ac yn grand old man yn ei oes. Yr oedd wedi bod ar y blaen gyda symudiadau cyhoeddus, yn wr o allu a dylanwad, ac yn gefnogydd aiddgar i agweddau diweddar ar waith crefyddol yn y Cyfundeb." Y mae Carneddog yn dyfynnu Glaslyn: "Bu ei lafur gyda'r dosbarthiadau o bob oedran yn fendith i'r ardal. Yr oedd ei ddull meistrolgar o holi'r ysgol yn llawn o ddyddordeb. Yr oedd yn foneddwr diwylliedig,
Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/168
Gwedd