a chwrtais yn ei holl ymddygiadau, ac o ran gwybodaeth a rhyddid ymadrodd yn gymwys i annerch unrhyw gynhulliad mewn llan a llŷs. Efe oedd arweinydd y canu cynulleidfaol hyd hwyr ei fywyd, ac yr oedd drwy ei lais tyner, tonnog, wedi dylanwadu ar y canu i'r fath raddau fel yr oedd rhyw fiwsig rhyfedd i'w deimlo ynddo, a thystiai llawer o'r gweinidogion nad oedd un gynulleidfa o fewn cylch Cyfarfod Misol Arfon yn canu gyda'r fath swyn, tynerwch a melodedd a chynulleidfa Beddgelert." El Carneddog ymlaen ei hun: "Gweithiodd yn galed er cael manteision addysg i'r dosbarth gweithiol, sef sefydliad yr Ysgol Frutanaidd yn 1851, a'r Bwrdd Ysgol cyntaf yn 1871, i'r hwn y bu'n gadeirydd am 18 mlynedd. Bu'n flaenorydd yn ei oes, er hyrwyddo holl fuddiannau y plwyf yn grefyddol a gwladol." Bu farw Hydref 17, 1897, yn 88 oed.
Yn fuan ar ol codi y rhai a nodwyd olaf y daeth Robert Williams gwehydd i'r ardal. Yr oedd ef yn flaenor ym Methania, a galwyd ef ym Meddgelert. Un o ardal Clynnog. Ymsefydlodd yn y man yn y Perthi uchaf, ar dir y Perthi. Yn arbennig fel gweddiwr. Bu am rai blynyddoedd yn arfer gweithio yn y Royal Goat Hotel. Cedwid y ddyledswydd deuluaidd yno ganddo ef ac un arall, a deuai'r teulu i gyd i'r gwasanaeth. Dyn da a chyflawn ac yn areithiwr da ar ddirwest. Mr. Pyrs Roberts a'i hadgyfododd ef ar gyfer yr hanes hwn, a blaenor arall o'r un enw, oedd yma tua'r un adeg, yn byw yn Tanllwyn. Dyn da, difrif, distaw ydoedd ef.
Y blaenoriaid nesaf oedd Rhys Jones Glangwynant, mab i John Jones yntau hefyd, a Richard Owen (Glaslyn). Yn ol yr ysgrif o'r lle, "tynnodd Rhys Jones ei gŵys i'r pen yn wastad ac esmwyth; ac yr oedd yn ddyn call, yn ddiwinydd da, a gair yn ei amser ganddo." Yn ol Mr. Pyrs Roberts yr oedd John Roberts a Rhys Jones yn rhagori ar bawb a fu o'u blaen mewn gofal cyffredinol am yr achos. Dywed ymhellach am Rhys Jones ei fod yn drefnus gyda phopeth, a bod taclusrwydd yn nodwedd arbennig arno. Ei anerchiadau yn y seiat a'r ysgol Sul yn fyrr, yn bwrpasol, yn gryno. Yn un o'r holwyr goreu, a ffordd ddeheuig ganddo i ofyn cwestiwn ei gwestiwn bob amser yn glir a goleu. Nid oedd dim gwasgarog a dibwynt yn perthyn iddo. Ni siaradai yn fynych yn gyhoeddus; ond pan wnae, byddai'n glir a synhwyrol. Torrwyd ef i lawr yn anterth ei nerth. Yn ol cofnod y Cyfarfod