William Ellis I fel milwr—Iesu Grist
Gwasgai raib y Twyllwr ;
A choron difalch arwr
Fry gadd ef, tr-agwedd wr.—(Alafon.)
(Traethodydd, 1897, t. 425. Cymru, 1910, t. 287. Drysorfa, 1895, t. 426. Llusern, 1895, Awst. Goleuad, 1895, Awst 14, t. 4).
Derbyniodd y Parch. W. J. Williams alwad yma, ac ymsefydlodd yn y lle yn 1899. (Llanfair pwll gwyngyll yn awr).
Y mae gan Mr. Pyrs Roberts atgofion am amryw eraill. Dynion. duwiol diamheuol oedd Robert Morris Dinas moch a Morris Parry Glan y gors, Dibriod oedd y ddau. Bu Robert Morris yn gwasanaethu am hir amser gydag Evan Pyrs Dinas moch. Bu unwaith ar fin ymadael am fod arno eisieu rhyw bunt yn chwaneg o gyflog am y tymor. Y wraig a hysbyswyd o hynny pan oedd y gwr oddicartref, a boddlonai hi iddo fyned, gan dybied nad ellsid ddim rhoi rhagor iddo. Nid oedd Evan Pyrs yn aelod eglwysig, er yn ddyn darllengar a selog, a phan glywodd ni fynnai sôn am ymadawiad Robert Morris. "Y mae'n well gen i roi mwy o lawer, Siani, na cholli Robin Morris, Y mae'n werth ei gadw er mwyn y ddyledswydd deuluaidd. Byddai'n chwith iawn ar yr aelwyd weled y ddyledswydd hebddo. Cofia, Siani, mai nid gwerth punt na dwy ydyw ei gael i gadw dyledswydd." A chyflogwyd ef ar unwaith. Dywedai un am dano, y buasai'n werth cerdded dwy filltir o ffordd i glywed Robert Morris yn gweddio. Ar brydiau byddai yn yr uchelderau o ran ei brofiad. Dyn hynod, hefyd, oedd Morris Parry. Ei hoff air pan wedi myned i'r hwyl oedd, "Arglwydd ein Hior." Ac wedi codi i'r pwynt hwn, tywalltai allan ffrydlif o hyawdledd a gorchfygai bawb. Pyrs Ifan oedd a dawn gwirioneddol hynod ganddo pan gaffai hwyl. Cyflawnder o eiriau heb wastraff. Dawn fel y môr. Digon cyffredin heb yr afael honno. Wedi bod yn hen greadur meddw iawn. Dynion da iawn oedd William ac Elieser, meibion Ellis Jones y Colwyn. Cododd nifer o ddynion cedyrn o ddiwygiad 1840. Y mae'n ymddangos ei fod yn anhawdd cael dosbarth o weddiwyr cyffelyb iddynt. Yn eu plith yr oedd William Williams Cwmcloch, Owen Evans Cwmcloch, Robert Williams Cae pompren. Y mae disgynyddion iddynt yma a thraw yn bregethwyr a blaenoriaid. Dynes hynod oedd Sian Ifan, y cafodd Gruffydd Prisiart ganddi ddeunydd ei gyngor ynghylch crefydd a rhaid ynddi. Cerddai yn ei chlocsiau,